England.  Change location

English  

Cyrsiau dysgu o bell ac ar-lein

Rydym yn arbenigo mewn cyrsiau dysgu o bell ac ar-lein - rydym wedi helpu dros 2 filiwn o bobl i gyflawni hyd at eu gallu.

Astudiwch gyda ni i elwa ar addysgu arloesol a chymwysterau sy'n cael eu parchu gan gyflogwyr; pob un â'r hyblygrwydd a'r gwerth nad yw bob amser ar gael mewn prifysgolion sy'n cynnig dysgu mewn ystafell ddosbarth.

Gwnewch gais am brosbectw

Porwch ein cyrsiau yn ôl pwnc

Mwy i'w archwilio

Mae dechrau arni yn haws nag y byddech yn ei ddisgwyl, ond os oes gennych gwestiynau, mae’r atebion gennym wrth law. Edrychwch ar yr hanfodion i astudio yn y Brifysgol Agored.

Beth yw dysgu o bell?

Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o bell, ond beth mae hynny'n ei olygu? Darganfyddwch sut, beth, pryd a ble y byddwch chi'n astudio gyda'n cyfres o ganllawiau byr ar fod yn fyfyriwr gyda'r Brifysgol Agored.

A allaf ei wneud?

Nid ydym yn credu mewn rhwystrau, felly os ydych yn barod i weithio'n galed, byddwn yn eich helpu i lwyddo. Os ydych yn ansicr ynghylch y lle gorau i ddechrau, gallwn roi helpu i chi efo hynny hefyd.

Sut i wneud cais

Dewiswch y cwrs iawn, dewch o hyd i'r opsiwn cyllido gorau a gwnewch gais ar yr amser iawn. Mae'r canllaw hwn yn eich arwain trwy'r broses o ddod yn fyfyriwr y Brifysgol Agored o'r dechrau i'r diwedd.

Ffioedd a chyllid

Os ydych yn fyfyriwr newydd, gallech gael hyd at £4,500 o gyllid tuag at gostau byw wrth astudio ein cyrsiau rhan amser. Darganfyddwch eich holl opsiynau cyllid heddiw.

Bod ar y blaen gyda throsglwyddo credyd

Gall astudio blaenorol gyfrif tuag at gymhwyster - hyd yn oed os na wnaethoch gwblhau'r cwrs. Mae 20% o raddedigion y Brifysgol Agored yn defnyddio Trosglwyddo Credyd i arbed amser ac arian wrth astudio.

Eisoes yn meddu ar radd?

Os ydych chi'n byw yng Nghymru efallai y byddwch chi'n dal i fod yn gymwys i gael benthyciad myfyriwr, hyd yn oed os oes gennych chi radd o brifysgol arall eisoes. Gweld a yw eich cymhwyster yn gymwys.

Cewch eich ysbrydoli

Mae miloedd o fyfyrwyr o bob cefndir yn cofrestru gyda'r Brifysgol Agored bob blwyddyn. Darganfyddwch sut beth yw cymryd y cam hwnnw sy'n newid bywyd.

Dewch i gwrdd â ni mewn digwyddiad

Rydym yn cynnal digwyddiadau ledled Cymru lle gallwch gwrdd â thiwtoriaid a thrafod eich opsiynau astudio gyda'n tîm cyfeillgar. Os ydych yn ystyried astudio gyda ni, neu eisiau dysgu mwy am y cyrsiau sydd ar gael, dewch i'n gweld ni yn un o ddigwyddiadau'r Brifysgol Agored.