Eich cynllun gweithredu personol
Gyda'r economi yn dal i fod ychydig yn ansicr, ni fu erioed amser gwell i wneud newidiadau cadarnhaol yn eich bywyd.
A allai eleni fod yn gyfle delfrydol i chi ddiweddaru eich sgiliau? Bydd gwella eich gwybodaeth yn rhoi hyder newydd a mantais gystadleuol i chi. Efallai bod pethau'n parhau i edrych ychydig yn ansicr yn eich diwydiant a bod yr amser wedi dod i ailhyfforddi yn gyfan gwbl. Os felly, a oes angen cymorth arnoch i nodi'r meysydd twf?
Efallai i chi golli eich swydd yn ystod yr helbul. Os felly, pa gymorth sydd ar gael? Sut rydych yn gwybod eich bod yn cael popeth y mae gennych yr hawl i'w gael?
Gobeithio y gall ein Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd gynnig rhywfaint o gymorth ac ysbrydoliaeth.
Prawf sgiliau
Sut y mae eich sgiliau yn gwrthsefyll marchnad fwy cystadleuol? Mynnwch gymorth i nodi meysydd lle gallwch wella
Meysydd twf
Er gwaethaf y caledi economaidd diweddar, mae rhai diwydiannau yn ffynnu o hyd. Canfyddwch pwy sy'n llwyddo orau
Diweddaru eich sgiliau
Yn awyddus i ehangu eich gwybodaeth?
Diddordeb mewn ailhyfforddi?
Gadewch i ni roi'r hwb sydd ei angen arnoch
Canllaw colli swydd
Mewn perygl o golli eich swydd? Yn ansicr ynglŷn â beth y mae gennych hawl i'w gael? Dysgwch am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau gyda'n canllaw cyflym
Cymorth CV
Mae CV da yn hanfodol mewn marchnad waith gystadleuol. Manteisiwch i'r eithaf ar eich sgiliau a'ch profiad gyda'n hawgrymiadau


