Astudiaethau Achos
Mae datblygiad plant yn ddawn naturiol i bob mam - penderfynais wneud gyrfa o fy un i
Sarah Witts, BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid y Brifysgol Agored
Roedd magu fy nhri o blant gartref yn gwneud i mi sylweddoli cymaint o ymdrech a wnaeth fy mam wrth fy magu i - yr holl amser a'r egni i'm dysgu i chwarae gemau, darllen llyfrau a deall pethau am y byd.
Wrth i'r plant dyfu a dechrau yn yr ysgol, roedd mwy o amser sbâr gennyf a dechreuais gymryd diddordeb mewn erthyglau cylchgronau a rhaglenni ar y teledu yn ymwneud â datblygiad plant. Dechreuais fynd i'w hysgolion o bryd i'w gilydd hefyd i helpu yn yr ystafell ddosbarth. Ar ôl saith mlynedd gartref, roedd bod yn yr amgylchedd gwaith yn dysgu sgiliau newydd wedi gwneud lles i mi.
Awgrymodd un o'r athrawon y dylwn fynd gam ymhellach drwy gael cymhwyster, a rhoddodd daflen i mi am y Brifysgol Agored. Es i ar-lein ac roeddwn yn hoffi'r disgrifiad ohono. Roeddwn braidd yn bryderus i gychwyn ac roeddwn am wneud ychydig bach i weld sut oeddwn yn ei hoffi.
Ymhen dim roeddwn yn dwli arno, ac mi ddilynais ddau gwrs gan gyflawni Tystysgrif mewn Arfer y Blynyddoedd Cynnar. Ar ôl hynny roeddwn wrth fy modd, gan ddal ati hyd nes i mi gael BA (Anrh) mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid.
John Farrell, myfyriwr Tystysgrif mewn Rheoli y Brifysgol Agored
Llwyddais i gael cymhwyster ar gyfer gyrfa newydd tra'n gweithio'n llawn amser, symud tŷ, a hyfforddi i redeg marathon
Chris Swain, BSc (Anrh) TG a Chyfrifiaduro
O wagenni fforch godi i fformiwlâu - sut gwnaeth y wasgfa gredyd fynd â mi o'r warws i'r maes TG


