Skip to content The Open University

Cyrsiau hyfforddi

Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Sgiliau Proffesiynol ar-lein hyblyg sydd wedi'u cynllunio ar gyfer eich datblygiad proffesiynol; byddant yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau rydych eu hangen yn eich gyrfa. Maent yn cyflenwi sgiliau, gwybodaeth a syniadau y gallwch eu defnyddio ar unwaith. Gwelwch ein rhestr lawn o gyrsiau hyfforddi.

Cyrsiau newydd ar gael yng Nghymru

Entrepreneuriaeth wledig: bod yn fos arnoch chi eich hun

Lluniwyd y cwrs gan ystyried yr heriau sy'n gysylltiedig â byw mewn amgylchedd amrywiol (trefol a gwledig), felly efallai y bydd y cwrs hwn, a gomisiynwyd yn arbennig ac sy'n rhad ac am ddim, o ddiddordeb i chi yn benodol os ydych yn ystyried hunan-gyflogaeth ac yn byw yng Nghymru.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch wedi datblygu cynllun gweithredu i'ch helpu i baratoi ar gyfer rhedeg eich busnes eich hun.

Cyrsiau a chyllid arall y Brifysgol Agored

Gallech hefyd fod yn gymwys i gael lle am ddim ar un o'n nifer o gyrsiau eraill os yw incwm eich cartref islaw £30,000 neu os ydych yn cael budd-daliadau penodol. Cymerwch olwg ar ein rhestr lawn o gyrsiau ac ewch i'n tudalen am arian ar gyfer cyrsiau i gael rhagor o wybodaeth.

"My OU tutors really knew what they were talking about and challenged the way that I thought and wrote." Alisdair Rusk, Postgraduate Science student. Fact: We offer over 580 short courses, diplomas and degrees.
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Higher education Funding Council for 
		Waleshefcw