Ariannu cyrsiau
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a'r math o gwrs Prifysgol Agored rydych am ei astudio, gallech fod yn gymwys i gael help gyda'ch ffioedd cwrs a chostau astudio.
Ydych chi'n gweithio ar hyn o bryd?
Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu a chyflawni, gallech fod yn gymwys i gael help gyda chostau astudio hyn yn oed os ydych yn ennill cymaint â £30,000*. Y llynedd, gwnaethom helpu dros 42,000 o bobl fel chi.
Hyd yn oed os na fyddwch yn gymwys i gael help gyda ffioedd cwrs, gallech fod yn gymwys o hyd i gael grant ar gyfer pethau fel gofal plant neu offer cyfrifiadurol.
Defnyddiwch ein cyfrifiannell ar-lein i gael canllaw bras ar ba gymorth y gallech fod yn gymwys iddo.
* Yn dibynnu ar nifer o bwyntiau astudio a ble rydych yn byw
Ydych chi allan o waith ar hyn o bryd?
Os ydych rhwng swyddi ar hyn o bryd ac yn hawlio un o'r budd-daliadau cymwys, gallwch gael cymorth ariannol ar gyfer eich ffioedd cwrs a'ch costau astudio.
Gallwch hefyd gael help gyda chost pethau eraill sy'n ymwneud â'ch cwrs - fel offer cyfrifiadurol, band eang neu ofal plant.
Gellir gweld manylion y budd-daliadau cymwys ar ein gwefan Cymorth Ariannol.
Beth os nad wyf yn gymwys?
Hyd yn oed os na fyddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol, gallwch ddewis talu am eich cwrs mewn rhandaliadau misol gyda Chyfrif Cyllideb Myfyrwyr y Brifysgol Agored. A wyddech chi y gallwch hefyd dalu am eich cwrs gyda thalebau Tesco clubcard?


