Skip to content The Open University

Meysydd twf yng Nghymru

Tra bod rhai diwydiannau yng Nghymru yn dioddef yng nghanol y dirwasgiad gyda gostyngiadau mawr yn y nifer a gaiff eu cyflogi yn y sectorau amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, manwerthu a bancio - mae eraill fel petaent yn goresgyn y dirwasgiad yn hynod o dda.

Os ydych yn edrych am yrfa mewn diwydiant sy'n ffynnu, efallai yr hoffech ystyried y meysydd canlynol.

TG a thechnoleg

Ar hyn o bryd mae dros 400 o gwmnïau technoleg yn cyflogi dros 33,000 o weithwyr proffesiynol ym maes TG ledled Cymru - gan gynnwys arweinwyr rhyngwladol fel LogicaCMG, Fujitsu Services, EDS, International Rectifiers, EADS, Sony ac IBM.

Cyfleoedd caffael ac ymchwil

Mae'r diwydiant hwn yn mynd o nerth i nerth a disgwylir y caiff dros £250m ei fuddsoddi mewn cyfleoedd caffael yn y sector cyhoeddus yn 2010 ac yn ogystal â hyn mae'r Cynulliad Cenedlaethol wrthi'n hyrwyddo partneriaethau ymchwil rhwng prifysgolion y wlad ac arweinwyr diwydiant fel NASA, Orange, O2, Motorola, EADS a General Dynamics.

Gweithio gyda data

Mae Cymru hefyd yn gartref i ganolfan ddata fodern £90m BT ym Mae Caerdydd, sef prif ddarparwr atebion e-fusnes y DU. Mae prosiect canolfan ddata 'werdd' gwerth £220m hefyd ar waith yng Nghasnewydd a fydd yn creu 100 o swyddi eraill ym maes uwch-dechnoleg.

Fact

Bydd angen cyfartaledd o 141,000 o weithwyr proffesiynol ym maes TG ar economi'r DU bob blwyddyn am y pedair blynedd nesaf*

*E-skills Technology Counts IT a Telecoms Insights 2008


Rheoli ynni a'r amgylchedd

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi nodi'r sector ynni a sector yr amgylchedd ymysg y sectorau pwysicaf ar gyfer twf cynaliadwy economi Cymru. Diolch i dargedau uchelgeisiol y wlad o ran ynni adnewyddadwy a'r ffaith bod ganddi ddigon o adnoddau ynni gwyrdd, nid yw'n anodd gweld pam fod pethau'n edrych yn dda i'r sector hwn.

Technolegau dŵr

Mae llawer o enwau mawr ym maes technoleg dŵr eisoes yn gweithredu yng Nghymru - gan gynnwys AMEC, Balfour Beatty, Biwater, Halcrow, BB&V, Mott McDonald, Parsons Brinckerhoff a DV Howells.

Mae rhagor o ddeddfwriaeth a gwelliannau arfaethedig i rannau helaeth o system ddŵr y DU yn parhau i arwain at gyfleoedd newydd mawr i gwmnïau ar draws y rhanbarth.

Ailgylchu

Rhagwelir y bydd diwydiant rheoli gwastraff y DU yn tyfu tua 7% y flwyddyn, gyda thwf hyd yn oed yn gyflymach yn yr is-sectorau ailgylchu ac ailddefnyddio. Bydd hyn yn creu diwydiant gwerth £11 biliwn erbyn 2010.

Ar hyn o bryd mae dros 400 o gwmnïau adfer ac ailgylchu wedi'u sefydlu yng Nghymru ac maent yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgî l targedau uwch gan y llywodraeth a chostau cynyddol deunyddiau crai.

Ymgynghoriaeth amgylcheddol

Gwelwyd twf o tua 10% gan gwmnïau ymgynghori amgylcheddol y DU ers 2000, a disgwylir twf pellach o ganlyniad i gydymffurfiaeth amgylcheddol, buddsoddiad mewn seilwaith, adeiladu a chyfrifoldeb corfforaethol uwch.

Ar hyn o bryd mae Cymru'n gartref i nifer gynyddol o gwmnïau ymgynghori amgylcheddol amrywiol iawn, yn bennaf ym meysydd adfer tir wedi'i halogi, asesu effaith amgylcheddol, gwastraff, dŵr a rheoli dŵr gwastraff.

Bydd y morglawdd arfaethedig ar draws aber afon Hafren, y gwaith ailddatblygu ar safle Corus yng Nglyn Ebwy, y broses o chwilio am safleoedd newydd ar gyfer ffermydd gwynt a'r Adolygiad o Hyfforddiant Amddiffyn i gyd yn cyflwyno cyfleoedd mawr i'r rhanbarth yn y dyfodol.

Fact

Yn ôl Sgiliau Ynni a Chyfleustodau - y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y diwydiannau trydan, nwy, rheoli gwastraff a dŵr - bydd bron i hanner eu gweithlu'n ymddeol yn ystod y ddegawd nesaf.


Diwydiannau creadigol

Mae sector creadigol mwyaf yr UE yn y DU, ac mae'n cyflogi tua 1.1 miliwn o bobl yn uniongyrchol gyda 800,000 arall yn gweithio mewn swyddi creadigol. Mae diwydiannau creadigol nodweddiadol yn cynnwys:

  • Hysbysebu
  • Pensaernïaeth
  • Ffasiwn
  • Ffilm a fideo
  • Meddalwedd a gwasanaethau cyfrifiaduron
  • Cerddoriaeth
  • Teledu a radio

Mae gweithgarwch ffyniannus Cymru yn y sector hwn yn golygu ei bod yn wlad ddeniadol i gwmnïau fuddsoddi ynddi, gan arwain at amrywiaeth dda o opsiynau cyflogaeth i unigolion creadigol a thalentog.


Back to top ^

"I've been a nurse for 20 years but it's only recently I've become a clinical nurse specialist - and that's down to my OU degree." Jasmina Banicek, Health and Social Care student
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Higher education Funding Council for 
		Waleshefcw