Cymorth diswyddiadau yng Nghymru
P'un a ydych eisoes wedi colli eich swydd neu os yw eich swydd mewn perygl ar hyn o bryd, mae cyfoeth o wasanaethau cymorth ar gael i chi os ydych yn byw yng Nghymru.
Os ydych yn ddi-waith ac ar gael i weithio, efallai eich bod yn gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith a budd-daliadau eraill, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Hefyd, gallech fanteisio ar y Cynllun Gweithredu ar Ddisgwyddiadau (ReAct), a gynlluniwyd yn benodol gan lywodraeth Cymru i'ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd cyn gynted â phosibl.
Y Cynllun Gweithredu ar Ddiswyddiadau (ReAct)
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gall cymorth sydd ar gael drwy ReAct gynnwys cyfraniad tuag at gostau hyfforddi, cymorth ariannol ar gyfer anghenion offer arbennig, deunyddiau hyfforddi, costau teithio a gofal plant.
ACAS
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Gallwch ffonio llinell gymorth ACAS ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Fel arall, ewch i www.acas.org.uk
Undebau Llafur
Os ydych yn aelod o undeb llafur, gall eich undeb roi cymorth gyda phob agwedd ar ddiswyddiadau, gan gynnwys cyngor ar gael arian ar gyfer dysgu a sgiliau. Siaradwch â chynrychiolydd eich gweithle neu gynrychiolydd dysgu'r undeb, neu cysylltwch â swyddfa eich undeb cenedlaethol.
Dylech gael tâl dileu swydd os oes gennych yr hawl i'w gael
Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) leol roi cyngor diduedd i chi am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Dewch o hyd i'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol
Ymholiadau yn ymwneud â thâl dileu swydd
Os oes gennych amheuon ynglyn â sut y gwnaeth eich cyflogwr gyfrifo eich tâl dileu swydd statudol, gallwch ffonio Llinell Gymorth Taliadau Dileu Swydd y llywodraeth ar 0845 1450 004.
Cyfrifiannell tâl dileu swydd
Caiff tâl dileu swydd ei gyfrifo yn ôl nifer y blynyddoedd y buoch yn gweithio i'ch cyflogwr. Cyfrifwch eich hawliad dileu swydd nawr.


