Skip to content The Open University

Dolenni sy'n berthnasol i Gymru

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ystod eang o faterion yn ymwneud â chyflogaeth a hyfforddiant yng Nghymru, edrychwch drwy'r rhestr o gysylltiadau defnyddiol isod.

Gyrfa Cymru

Cyngor diduedd a chyfrinachol am ddim a chymorth o ran dewisiadau gyrfa a chyfleoedd dysgu yng Nghymru. I bobl o bob oedran.

Cyngres Undebau Llafur Cymru (WTUC)

Os hoffech ymuno ag Undeb Llafur ond nad ydych yn siwr pa undeb sy'n cynrychioli eich math chi o weithle, cysylltwch â TUC Cymru ar 02920 347 010.

Coleg Castell-nedd Port Talbot

Mae'r Coleg yn cynnig rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau i ddiwallu'r rhan fwyaf o anghenion, naill ai ar sail rhan amser neu amser llawn.

ColegauCymru/CollegesWales

Y sefydliad cenedlaethol sy'n cynrychioli'r 24 o golegau Addysg Bellach yng Nghymru. Dysgwch fwy am ddarparwyr Addysg Bellach lleol a dewch o hyd i'ch coleg agosaf.

Y Ganolfan Byd Gwaith

Help a chyngor ar swyddi a hyfforddiant i bobl sy'n gallu gweithio, a chymorth ariannol i'r rheini na allant weithio.

ProAct

Cymorth ariannol wedi'i gynllunio i helpu busnesau i ddelio â'r dirywiad drwy addysg a hyfforddiant.

Cynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector

Mae'r llais cyfunol ar gyfer pob un o'r 25 o Gynghorau Sgiliau Sector trwyddedig, yn gorff ar gyfer y DU gyfan a cheir swyddfa yma yng Nghymru.

1 Caspian Point
Pierhead Street
Cardiff
CF10 4DQ

Dysgu Gydol Oes yn y DU

Dysgu Gydol Oes yn y DU yw'r Cyngor Sgiliau Sector annibynnol a arweinir gan gyflogwyr sy'n cynrychioli'r sector dysgu gydol oes ac sy'n cynnwys y cyflogwyr hynny sy'n darparu neu'n cefnogi dysgu i oedolion a phobl ifanc nad ydynt yn yr ysgol fel eu prif fusnes. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • addysg bellach
  • addysg uwch
  • dysgu seiliedig ar waith a darparwyr hyfforddiant preifat
  • llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth
  • Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd
  • dysgu a datblygu yn y gymuned - sy'n cynnwys:
    • datblygu cymunedol
    • gweithio gyda rhieni
    • gwaith ieuenctid
    • addysg datblygu
    • dysgu oedolion yn y gymuned
    • dysgu fel teulu
    • addysg gymunedol

Lwfans Ceisio Gwaith

Dyma'r prif fudd-dal ar gyfer pobl o oedran gweithio sydd allan o waith ar hyn o bryd neu'n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Dyma'r budd-dal a gyflwynwyd yn lle Budd-dal Analluogrwydd a Cymhorthdal Incwm a dalwyd ar sail analluogrwydd ym mis Hydref 2008.

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru

Darparu cyngor a chanllawiau a fframwaith deddfwriaethol i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.

Back to top ^

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Higher education Funding Council for 
		Waleshefcw