Skip to content The Open University

Gwella eich sgiliau yng Nghymru

Mae gwella eich sgiliau drwy ennill cymwysterau ychwanegol neu brofiad gwaith yn ffordd ddelfrydol o wella eich sicrwydd o ran gwaith - yn arbennig mewn marchnad ansicr.

Gwirfoddoli

Byddai cymryd rhan mewn gweithgaredd gwirfoddol yn ffordd wych i chi ddatblygu eich gallu presennol. Gall hefyd wneud y gorau o'r sgiliau y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt - yn arbennig am fod llawer o asiantaethau gwirfoddoli bellach yn cynnig hyfforddiant i'w gwirfoddolwyr.

Dysgwch fwy am gyfleoedd gwirfoddoli posibl yng Nghymru drwy ymweld â gwefannau Gwirfoddoli Cymru or Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Gallwch hefyd gysylltu â'r CGGC drwy ffonio 0800 2888 329 neu anfon e-bost i help@wcva.org.uk


Dysgu drwy golegau lleol

Os penderfynwch feithrin sgiliau ychwanegol drwy'r Brifysgol Agored yng Nghymru, gallwch fanteisio ar gefnogaeth wyneb yn wyneb gan eich coleg lleol.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig Gradd Sylfaen mewn Gwasanaethau Ariannol mewn partneriaeth â Choleg Castell-nedd Port Talbot ac yn datblygu partneriaeth Cyflwyno cyrsiau'r Brifysgol debyg â Llandrillo College.


Adeiladu ar eich cymwysterau presennol

Felly, rydych wedi penderfynu mynd yn ôl i addysg i wella eich sgiliau ac i symud ymlaen yn y gwaith, ond ble i ddechrau? I gael golwg gyflym ar beth y gallwch ei wneud gyda'ch cymwysterau presennol, edrychwch ar y siart isod.

Credit and Qualifications Framework for Learning and Progression Routes

Back to top ^

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Higher education Funding Council for 
		Waleshefcw