Skip to content

Toggle service links

Polisi a Materion Cyhoeddus

Bae CaerdyddDrwy ein gwaith polisi a materion cyhoeddus rydym yn ceisio sicrhau bod polisi addysg uwch yng Nghymru yn cefnogi anghenion dysgwyr rhan amser.

Gwnawn hyn drwy adeiladu ac atgyfnerthu cydberthnasau â Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, Aelodau Cynulliad, a rhanddeiliaid eraill fel Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Phrifysgolion Cymru.

Mae Addysg Rhan Amser yn Bwysig: Addysg uwch sy’n gweithio i Gymru

Bydd 2016 yn flwyddyn bwysig i bolisi addysg uwch yng Nghymru gan y gwneir penderfyniadau a fydd yn effeithio ar ddyfodol dysgwyr rhan amser yng Nghymru.  Mae Etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016 a chyhoeddi adroddiad terfynol Adolygiad annibynnol o gyllid addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr (adolygiad Diamond) yn cynnig cyfleoedd i gefnogi a datblygu addysg uwch rhan amser.

Mae Addysg Rhan Amser yn Bwysig - Addysg uwch sy’n gweithio i Gymru

Mae addysg uwch rhan amser yn newid bywydau ac yn cyfrannu'n sylweddol at economi Cymru.  Ond mae nifer y myfyrwyr rhan amser yn gostwng ac mae llai o gyrsiau yn cael eu cynnig. Er mwyn i Gymru ffynnu yn economaidd ac yn gymdeithasol, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y drws i addysg uwch rhan amser yn aros yn agored. Dyna pam ein bod wedi nodi saith ffordd y gall gwleidyddion a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill yng Nghymru gefnogi addysg uwch rhan amser:

  • Parch cydradd i addysg uwch lawn amser ac addysg uwch ran amser
  • System gyllido gynaliadwy
  • Ehangu cyfleoedd i astudio'n rhan amser mewn cyflogaeth
  • Cefnogaeth i fentrau ehangu mynediad
  • Gwella gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar opsiynau astudio'n rhan amser
  • Benthyciadau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig
  • Annog arloesed digidol mewn addysg uwch a dysgu ar-lein

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bob un o'r rhain yn ein crynodeb Mae Addysg Rhan Amser yn Bwysig neu darllenwch ein papur briffio llawn

Ymatebion i Ymgynghoriadau a Phapurau Briffio

Ynghyd â'n gwaith polisi rydym hefyd yn defnyddio cyfarfodydd, digwyddiadau  a'n gwaith cyfryngau i godi proffil Y Brifysgol Agored a materion yn ymwneud â myfyrwyr rhan amser yng Nghymru. 

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith Polisi a Materion Cyhoeddus cysylltwch â'n Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Michelle Matheron