Mae ein myfyrwyr yn dod o bob cefndir. Nid ydym yn brifysgol sy'n derbyn un math o fyfyriwr yn unig, credwn fod pob dysgwr yn unigryw. Mae gan ein myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr ledled Cymru eu cefndiroedd, nodau, a stori eu hunain i'w rhannu, ac rydym yma i'w cefnogi ar hyd y daith.
Cewch air gan rai o'n myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr isod wrth iddynt rannu eu taith gyda’r Brifysgol Agored.
Rhoddodd y Brifysgol Agored yr hyblygrwydd i Lauren helpu ei rhieni ar y fferm a gwireddu ei breuddwyd o ddilyn gyrfa fel athrawes Saesneg.
Llwyddodd y cymorth a dderbyniodd gan y Brifysgol Agored iddi gyflawni ei nodau.
Roedd Mark yn gweithio mewn bar wrth astudio yn y Brifysgol Agored er mwyn cyllido ei radd. Nawr mae'n cychwyn ei swydd gyntaf yn y diwydiant TG, ac mae’n gobeithio y bydd hyn yn gychwyn ar yrfa newydd iddo.
Enillodd Mark Wobr Syr John Daniels am y sgôr gorau mewn Cyfrifiadura a TG yn y seremoni raddio yng Nghaerdydd eleni.
Yn 1970, roedd Dr John Evans ddwy filltir dan ddaear ym Mhwll Glo Cwmgwili, Sir Gaerfyrddin pan ddaeth ar draws hysbyseb y Brifysgol Agored mewn cylchgrawn i'r glowyr.
Rhwygodd yr hysbyseb o'r cylchgrawn, aeth ag ef gartref a gwneud cais ar gyfer y Brifysgol Agored ar unwaith, gan ddod yn un o'r myfyrwyr cyntaf yng Nghymru i ymuno â'r brifysgol.
Mae Alireza yn astudio gradd meistr mewn Peirianneg Dŵr a Sifil. Fel myfyriwr tramor roedd angen iddo lwyddo yn ei arholiad IELTS i sicrhau lle ar y cwrs.
Defnyddiodd ein cyrsiau ar-lein am ddim Everyday English i ymarfer siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu ar gyfer yr arholiad ac erbyn hyn mae wedi cychwyn ar ei gwrs meistr yn y brifysgol.
Aeth Ashleigh i mewn i waith yn syth ar ôl gadael y coleg. Penderfynodd ei bod am gychwyn gradd, ond nid oedd eisiau rhoi'r gorau i'w swydd.
Roedd hyblygrwydd y Brifysgol Agored yn golygu ei bod yn gallu aros mewn gwaith ac ennill profiad gwerthfawr wrth astudio at ei gradd.
Mae gan Charlotte raddau TGAU gwych, ond ar ôl cael ei bwlio'n ddifrïol gan fyfyrwyr ac athrawon gadawodd yr ysgol heb gymwysterau Lefel Uwch.
Rhoddodd y Brifysgol Agored yr hyder i Charlotte astudio eto. Bellach, mae hi wedi sefydlu ei chwmni ei hun fel siaradwr gwrth-fwlio ryngwladol.
Os ydych wedi eich ysbrydoli gan straeon rhyfeddol ein myfyrwyr, edrychwch ar ein hystod o gyrsiau. Archwiliwch yr hyn sy’n bosib pan rydych yn dysgu o amgylch eich bywyd gyda’r Brifysgol Agored.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw