You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Gwybodaeth i fyfyrwyr
  4. Gwrando ar ein myfyrwyr

Gwrando ar ein myfyrwyr

students on their technologies

Siarter y Myfyrwyr

Mae'r Brifysgol Agored yn gymuned o staff a myfyrwyr yn cydweithio. Datblygwyd ein Siarter Myfyrwyr ar y cyd gan y Brifysgol a Chymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored, er mwyn disgrifio ein gwerthoedd cymunedol a'r hyn y gallwn ei ddisgwyl oddi wrth ein gilydd.

Darllenwch Siarter Myfyrwyr Y Brifysgol Agored (PDF)

Cymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored

Mae Cymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored yn cefnogi myfyrwyr Y Brifysgol Agored yng Nghymru drwy Gynulliad Cymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored (OUSA) yng Nghymru. Cadeirir y Cynulliad gan Gynrychiolydd Cymdeithas Myfyrwyr Cymru, Claire Smith.

Y Cyfarfod Ymgynghorol Blynyddol i Fyfyrwyr a Fforwm Myfyrwyr Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Rydym bob amser yn awyddus i glywed barn ein myfyrwyr. Dau gyfle i fyfyrwyr yng Nghymru rannu eu barn â staff a myfyrwyr eraill yw'r Cyfarfod Ymgynghorol Blynyddol i Fyfyrwyr a Fforwm Myfyrwyr Y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Mae'r Cyfarfod Ymgynghorol Blynyddol i Fyfyrwyr yn gyfle i fyfyrwyr ddod ynghyd â staff Y Brifysgol Agored yng Nghymru gan gynnwys Darlithwyr Cyswllt i godi unrhyw gwestiynau a all fod ganddynt yn ogystal â gwrando ar safbwyntiau myfyrwyr eraill yng Nghymru a'u trafod.

Mae Fforwm Myfyrwyr Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn gymuned ar-lein lle y gall myfyrwyr a staff drafod cwestiynau sydd wedi codi ynghylch astudio gyda'r Brifysgol Agored neu unrhyw newidiadau i'r broses astudio a gynigiwyd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y Cyfarfod Ymgynghorol Blynyddol i Fyfyrwyr a Fforwm Myfyrwyr Y Brifysgol Agored yng Nghymru, cysylltwch ag OUSA yng Nghymru.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Gallwch gysylltu ag OUSA yng Nghymru

drwy email or
neu drwy eu cyfrif twitter account.