You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Stori Ann-Louise

Stori Ann-Louise

Dechreuodd Ann-Louise wirfoddoli yn ysgol ei merch gan helpu’r plant i ddarllen a sillafu – ac roedd wrth ei bodd. Roedd eisiau mynd gam ymhellach a dod yn athrawes, ond fel mam sengl, gyda swydd ac yn gofalu am ei thad, ni allai ymrwymo i fynd i brifysgol yn llawn amser i gael gradd.

Roedd Y Brifysgol Agored yn cynnig yr hyblygrwydd oedd ei angen arni ac yn 2012 cofrestrodd i wneud BA (Anrhydedd) mewn Datblygiad Plentyndod ac Ieuenctid – er, a hithau’n 42 oed, roedd rhai o’i ffrindiau’n chwerthin ac yn dweud ei bod yn rhy hen!

Dyma sydd gan Ann-Louise i’w ddweud am ei thaith gyda’r Brifysgol Agored

Gadewais yr ysgol tua 30 mlynedd yn ôl gydag ambell lefel O ac A. Roeddwn eisiau mynd ymlaen i astudio ond roedd y pwyslais ar y pryd ar gael swydd. Roedd fy rhieni’n dod o’r dosbarth gweithiol a doedd neb yn ein teulu wedi bod i brifysgol. Yn fy nghenhedlaeth i,  roeddech yn cymryd bod yn rhaid i chi fod yn gyfoethog neu freintiedig i fynd i brifysgol, felly es i weithio a doeddwn i ddim yn gwarafun hynny, roeddwn yn mwynhau'r arian a’r rhyddid.

Bellach rwy’n gweithio’n rhan amser yn delio â hawliadau i gwmni yswiriant Admiral a thua phum mlynedd yn ôl dechreuais helpu yn ysgol fy merch, ysgol gynradd leol. Roedd uned Anghenion Addysg Arbennig yno a gweithiais gyda’r athrawes AAA yn cefnogi cynnydd disgyblion a’u helpu i gyflawni eu nodau.

Sylweddolais mai’r cyfan oedd ei angen ar blant oedd rhywun i wrando arnynt. Esboniais eu hamcanion dysgu gan greu perthynas gyda’r rhai a oedd yn cael eu hystyried yn ddisgyblion trafferthus neu yn syml iawn, y rhai a oedd yn methu â gwneud y gwaith – ac fe gawson nhw lwyddiant.

Rwyf eisoes wedi cael y Dystysgrif Cefnogi Dysgu mewn Ysgolion Cynradd sy’n golygu y byddwn yn gallu cael swydd fel Cymhorthydd Dysgu. Fy nod ar y dechrau oedd bod yn athrawes, ond erbyn hyn, a minnau wedi cyrraedd fy mhedwaredd flwyddyn mae fy mryd ar fynd i faes gofal bugeiliol, i helpu plant sydd â phroblemau gartref neu yn eu bywyd sy’n eu hatal rhag dysgu.

Pam wnes i droi at Y Brifysgol Agored? Mae'n ffordd fwy hyblyg o ddysgu ac roedd yn addas i fy mywyd fel mam sengl, a oedd yn gweithio ac yn gofalu am fy nhad sy’n 70 oed, yn wael ei iechyd ac yn byw gyda ni. Doeddwn i ddim yn gallu mynd i ddarlithoedd erbyn 9 o’r gloch y bore mewn prifysgol ond rwy’n gallu mynd ar ôl 9 o’r gloch ar ôl gwneud yr holl waith arall sy gen i. A thra’r oeddwn yn credu bod gallu rheoli a monitro fy nysgu fy hun yn bwysig, rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth yr wyf yn ei chael gan Y Brifysgol Agored. Dydw i ddim yn cael fy nhrin fel plentyn, ond fel menyw aeddfed.

Mae fy nhiwtoriaid wedi bod yn hyblyg, ac ar y cyfan maen nhw wedi bod yn amyneddgar iawn, gan wybod bod ‘bywyd’ weithiau yn y ffordd. Rwy’n credu mai dim ond dau estyniad yr wyf wedi gorfod eu cael mewn pedair blynedd ac os oes angen mwy o gymorth, mae ar gael.

Eleni nid wyf wedi gallu mynd i gymaint o diwtorialau gan fod nifer ohonynt wedi bod ar ddydd Sadwrn pan ydw i yn y gwaith – neu os ydyn nhw’n cael eu cynnal yn gynnar rwyf wedi bod yn mynd iddynt ac yna wedi gweithio shifft hwyr. Rwy’n dal i allu cael yr holl nodiadau gan y tiwtor ac rwy’n gallu gofyn cwestiynau wedyn fel pe bawn wedi bod yno.

Mae fy astudiaethau wedi effeithio ar fy ngwaith gydag Admiral – ond mewn ffordd dda. Mae’r ffaith fy mod yn gwneud gradd wedi creu argraff dda arnynt ac os bydda i’n aros yno, mae cynllun i raddedigion ac mae fy nghydweithwyr fy edmygu hefyd gan eu bod yn gwybod am yr holl bethau eraill y mae’n rhaid i mi eu gwneud.

Ac rwyf wedi darganfod bod yr hyn yr wyf yn ei ddysgu am gyfathrebu gyda phlant wedi fy helpu yn y gwaith. Mae plant, ac oedolion h.y. ein cwsmeriaid angen gwybod bod rhywun yn gwrando arnynt, eich bod yn dangos parch tuag atynt yn ogystal ag empathi.

Mae astudio gyda’r Brifysgol Agored wedi fy newid fel rhiant. Os ydych yn siarad efo plentyn ac yn dweud ‘paid â gwneud hynna, mae'n wirion’, ac yn galw’r plentyn yn wirion, bydd yn cael effaith negyddol. Mae’r hyn yr ydyw i’n ei ddweud a’i wneud yn cael effaith ar blant, felly rwyf bellach yn newid y geiriau yn fy mhen cyn siarad efo fy merch. Mae hi’n 14 oed ac mae gennym berthynas wych, mae hi yn ei harddegau a dydi di ddim wedi mynd dros ben llestri.

Dw i’n neilltuo llawer o amser iddi ac mae hithau’n rhoi amser i mi wneud fy astudiaethau. Pan mae’n dod i mewn, mae'n gwneud paned i mi, yn gofyn a ydw i eisiau unrhyw beth ac yna mae’n mynd  i wylio’r teledu rhag tarfu arna i. Os ydi fy nhad yn gwybod fy mod yn astudio, wneith o ddim holi am y smwddio, na beth sydd i swper.

Rwy’n ffodus, fel rhiant sengl, bod ffioedd fy nghwrs yn cael eu talu. Ar wahân i rai llyfrau ac offer ysgrifennu y mae’n rhaid i mi eu prynu, dydi o ddim yn costio dim mwy na fy amser. Rwy’n bendant yn cefnogi Llywodraeth Cymru am helpu pobl fel fi.

Ac os ydych yn drefnus gallwch wneud unrhyw beth, y smwddio, glanhau, garddio ac astudio – er ar adegau dydw i ddim yn siŵr pa un ydw i’n ei wneud!

Fy nod yw defnyddio fy ngradd i gael swydd lawn amser mewn ysgol leol ac rwy’n meddwl bod hynny’n bosibl. Trwy wneud hynny galla i roi rhywbeth yn ôl i fy merch, fy nghymuned a’r gymdeithas. Addysg yw sylfaen popeth.

Rwy’n credu bod fy nheulu wedi synnu braidd pan ddywedais fy mod am astudio cwrs gradd ac ymateb fy ffrindiau oedd chwerthin, gan ddweud fy mod yn rhy hen. Ond dydych chi byth yn rhy hen i ddysgu ac yn fy meddwl rwy’n dal yn 25 oed. MI fydda i wedi cyflawni camp wrth ennill fy ngradd, ond gall unrhyw un ei wneud.