You are here

  1. Hafan
  2. 50 mlynedd o ddysgu sy’n newid bywyd: Hanes byr am y Brifysgol Agored

50 mlynedd o ddysgu sy’n newid bywyd: Hanes byr am y Brifysgol Agored

Dyddiad
Dydd Mawrth, Mehefin 18, 2019 - 14:30 tan 16:00
Lleoliad
Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd, CF10 4PA
Cysylltwch
OU in Wales Events
Archive photograph of science lab

Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 50, cewch wybod mwy am ddechreuad y Brifysgol Agored ac edrych yn ôl ar y newid a fu yn ein haddysgu dros y 50 mlynedd diwethaf.

Cewch weld deunydd o’n harchifau ac enghreifftiau o’r offer a yrrwyd at y disgyblion yn ystod y dyddiau cynnar megis microsgopau, pecynnau gwyddonol a chyfrifiaduron!

Bydd cyfle i ddarganfod mwy am sut a pham y sefydlwyd y Brifysgol Agored, a sut rydym wedi parhau i arloesi dros y pum degawd diwethaf.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad gan ein llyfrgellydd, Amanda Closier, a bydd cyfle am drafodaeth ac i ofyn cwestiynau. Mae’r digwyddiad yn agored i bawb, ac rydym yn awyddus i groesawu myfyrwyr y Brifysgol Agored, alumni a thiwtoriaid presennol a blaenorol.

Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond mae angen archebu. Cofrestrwch nawr trwy Eventbrite.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws