You are here

  1. Hafan
  2. Arddangosfa Wyddoniaeth y Brifysgol Ag

Arddangosfa Wyddoniaeth y Brifysgol Ag

Dyddiad
Dydd Sadwrn, Mawrth 24, 2018 - 18:00 tan 21:30
Lleoliad
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP

Byddwn ni yn y digwyddiad Awr Ddaear yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bob blwyddyn mae Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) yn cynnal Awr Ddaear - mudiad byd-eang sy’n dod â miliynau o bobl ledled y byd at ei gilydd i alw am fwy o weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

Eleni mae WWF Cymru yn cydweithio ag Amgueddfa Cymru. 


Yn y digwyddiad gyda’r nos hwn bydd cyfle i chi ymuno â gwyddonwyr o’r Amgueddfa wrth iddynt ddangos yr effaith ddifrifol mae newid yn yr hinsawdd a dylanwad dyn ar y byd naturiol wedi eu cael ar anifeiliaid a’r amgylchedd. O greaduriaid megis y Dodo, yr enwocaf o’r rhywogaethau diflanedig, i Bryn y teigr Swmatraidd sydd mewn perygl enbyd.
Mae’r Brifysgol Agored yn falch iawn i gael dangos peth o’r wyddoniaeth a ddefnyddiwyd yn y cynhyrchiad diweddar gan y Brifysgol Agored/BBC Blue Planet 2.


Mae'r tocynnau am ddim i'r digwyddiad yma ond mae rhaid eu harchebu ymlaen llaw ar wefan yr amgueddfa 

Archebwch yma

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws