You are here

  1. Hafan
  2. BG REACH Gweithdy sgrifennu Creadigol: Sesiwn 2

BG REACH Gweithdy sgrifennu Creadigol: Sesiwn 2

Dyddiad
Dydd Sadwrn, Chwefror 29, 2020 - 14:30 tan 16:30
Lleoliad
Aberbeeg Community Centre, Pant ddu Road, Abertillery NP13 2BP
Cysylltwch
OU in Wales Partnerships

   Ysgrifennu'r hyn rydych chi'n ei wybod – creu hunaniaeth a chymeriad.

Dros y chwe sesiwn, cewch eich cefnogi gan Liz i roi cynnig ar rai technegau ysgrifennu gwahanol a gwahanol fathau o ysgrifennu i gael eich syniadau creadigol i lifo. Bydd Liz yn eich tywys ar sut i ddechrau ysgrifennu, creu cymeriadau, creu sgriptiau a llawer mwy.

BG REACH: Blaenau Gwent Residents Engaging in Arts, Community and Heritage  -  mae BG REACH yn gyfle i ddathlu hanes, diwylliant a harddwch cyfoethog Blaenau Gwent.

Mae'n gyfle i drafod treftadaeth leol a dod â straeon, atgofion a phethau sy'n bwysig i chi am le rydych chi'n byw yn fyw trwy gerddoriaeth, celf, adrodd straeon ac ysgrifennu creadigol.

Mae'n gydweithrediad rhwng Grŵp Cymunedol Aber-bîg gyda Chymdeithas Tai Linc Cymru a'r Brifysgol Agored.

Trwy fis Chwefror a mis Mawrth bydd gweithdai’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Gymunedol Aber-bîg sy'n rhad ac am ddim i gymryd rhan. Gallwch fynychu cyn lleied neu gynifer o weithdai ag y dymunwch a bydd rhywun i'ch tywys ar hyd y ffordd.

Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn gymryd rhan yn y gweithdai.

Gallwch ddisgwyl cwrdd â phobl, cael hwyl, rhannu syniadau ac atgofion ac efallai dysgu ambell beth ar hyd y ffordd.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws