You are here

  1. Hafan
  2. BG REACH Gweithdy Treftadaeth a Hunaniaeth

BG REACH Gweithdy Treftadaeth a Hunaniaeth

Dyddiad
Dydd Mawrth, Chwefror 11, 2020 - 12:30 tan 14:30
Dydd Mawrth, Chwefror 18, 2020 - 12:30 tan 14:30
Dydd Mawrth, Chwefror 25, 2020 - 12:30 tan 14:30
Dydd Mawrth, Mawrth 17, 2020 - 12:30 tan 14:30
Dydd Mawrth, Mawrth 24, 2020 - 12:30 tan 14:30
Lleoliad
Aberbeeg Community Centre, Pant ddu Road, Abertillery NP13 2BP
Cysylltwch
OU in Wales Partnerships

   

Trwy ddefnyddio delweddau a sgwrsio, bydd y sesiynau hyn yn ysgogi atgofion o hanes eich cymuned ac yn eich helpu chi i ystyried sut wnaeth hyn llunio eich hunaniaeth. Rhannwch eich straeon, gwrandewch ar eraill a dewch i darganfod straeon newydd. Efallai yr hoffech ddod â rhai o'r straeon hyn yn fyw yn y gweithdai celf, cerddoriaeth neu ysgrifennu creadigol, neu mewn ffyrdd eraill.

BG REACH: Trigolion Blaenau Gwent yn Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Cymuned a Threftadaeth - Mae BG REACH yn gyfle i ddathlu hanes, diwylliant a harddwch cyfoethog Blaenau Gwent.

Mae'n gyfle i drafod treftadaeth leol a dod â straeon, atgofion a phethau sy'n bwysig i chi am le rydych chi'n byw yn fyw trwy gerddoriaeth, celf, adrodd straeon ac ysgrifennu creadigol.

Mae'n gydweithrediad rhwng Grŵp Cymunedol Aber-bîg gyda Chymdeithas Tai Linc Cymru a'r Brifysgol Agored.

Trwy fis Chwefror a mis Mawrth bydd gweithdai’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Gymunedol Aber-bîg sy'n rhad ac am ddim i gymryd rhan. Gallwch fynychu cyn lleied neu gynifer o weithdai ag y dymunwch a bydd rhywun i'ch tywys ar hyd y ffordd.

Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn gymryd rhan yn y gweithdai.

Gallwch ddisgwyl cwrdd â phobl, cael hwyl, rhannu syniadau ac atgofion ac efallai dysgu ambell beth ar hyd y ffordd.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws