You are here

  1. Hafan
  2. Blue Planet II: Y wyddoniaeth y tu ôl i gyfres y BBC

Blue Planet II: Y wyddoniaeth y tu ôl i gyfres y BBC

Dyddiad
Dydd Mercher, Ionawr 30, 2019 - 18:00 tan 20:00
Lleoliad
Chweched Glannau Dyfrdwy, Coleg Cambria, Ffordd Llanarth Cei Connah, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 4BH
Cysylltwch
Digwyddiadau Cymru
Blue Planet II: Y wyddoniaeth y tu ôl i gyfres y BBC

Mae'r Athro Mark Brandon a Dr Philip Sexton wedi treulio blynyddoedd yn gweithio mewn cefnforoedd ym mhob cwr o'r byd gan gynnwys Antarctica, môr Iwerydd a'r Arctig.

Yn fwyaf diweddar, roeddynt yn rhan o dîm academaidd y Brifysgol Agored yn gweithio ar gyd-gynhyrchiad y BBC a’r Brifysgol Agored, Blue Planet II. Gan ddefnyddio darganfyddiadau ym maes gwyddor môr a thechnolegau arloesol, roedd y gyfres hon â saith rhan yn garreg filltir a ddaeth â gwylwyr wyneb yn wyneb â straeon grymus o gefnforoedd anhygoel ein Daear.

Gyda'i gilydd, bydd yr Athro Mark Brandon a Dr Philip Sexton yn siarad am wyddorau'r cefnforoedd, y profiad o'r broses gynhyrchu, a'r ffordd y gwnaeth gwyddoniaeth a darganfyddiadau ysgogi'r gyfres arobryn.

Bydd y drysau'n agor am 6pm a'r ddarlith yn dechrau am 6:30pm, felly sicrhewch eich bod yn eich seddi erbyn 6:25pm.

Cynhelir y ddarlith mewn partneriaeth â Choleg Cambria yn safle Chweched Glannau Dyfrdwy. Mae mannau parcio ar gael, dilynwch yr arwyddion yn y lleoliad.

Mae'r tocynnau am ddim, ond mae angen archebu lle. Cliciwch yma i archebu lle.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws