Mae iechyd meddwl plant yn dod yn bryder cynyddol, yn enwedig yn ystod y pandemig hwn. Nododd adroddiad yn 2018 gan Gynulliad Cymru yr amcangyfrifir y bydd gan dri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth maint cyffredin broblem iechyd meddwl. Mae llawer o blant sy'n dangos arwyddion o orbryder ac iselder, ond nad ydynt yn cael diagnosis ffurfiol. Dewch i ddarganfod rhai pethau ymarferol a fydd yn eich helpu i adnabod arwyddion ac adeiladu eu gwytnwch emosiynol.
Bydd y weminar hon yn canolbwyntio ar bwysigrwydd chwarae i ddatblygu emosiynau, a ddarperir gan un o Seicolegwyr Addysg y Brifysgol Agored sy'n arbenigo mewn chwarae dan gyfarwyddyd i blant, creadigrwydd a gwrando gweithredol gyda phlant. Byddwch yn cael rhywfaint o wybodaeth a gweithgareddau amhrisiadwy, gan gynnwys chwe ffordd y mae UNICEF (2020) wedi adnabod y gall rhieni/gwarcheidwaid gefnogi plant.
Pwy ddylai fynychu: Rhieni/gwarcheidwaid plant o oedran ifanc i fyny, neu sydd â phlant sy'n ei chael hi'n anodd mynegi eu hunain.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw