You are here

  1. Hafan
  2. Cau’r Bwlch: Uwchgynhadledd Symudedd Cymdeithasol i Gymru

Cau’r Bwlch: Uwchgynhadledd Symudedd Cymdeithasol i Gymru

Dyddiad
Dydd Iau, Mai 24, 2018 - 09:00 tan 16:30
Lleoliad
Gwesty Radisson Blu, Caerdydd

Ar ôl 19 mlynedd o ddatganoli, a yw strwythur ein cymdeithas wedi newid er gwell?

A oes gan ein dinasyddion yr arfau sydd eu hangen arnynt i adeiladu bywyd gwell ar gyfer nhw’u hunain a’u teuluoedd?

Bydd Cau’r Bwlch yn eich rhoi mewn ystafell gyda’r llywodraeth, melinau trafod, ymchwilwyr ac arweinwyr busnes wrth i ni fynd i’r afael â’r her fwyaf sy’n wynebu ein cymdeithas. Cewch ystyried y materion, rhannu eich syniadau a chreu syniadau polisi; dyma eich cyfle i ddechrau’r drafodaeth.

Ymhlith y prif siaradwyr fydd cyn Weinidog Cabinet y DU a Chadeirydd diweddar y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol Alan Milburn, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru Kirsty Williams AC.

Cefnogir y digwyddiad hwn gan y Brifysgol Agored yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.

Mae croeso i chi gyfrannu yn Gymraeg yn ein digwyddiadau – rhowch wybod i ni os mai dyma eich dymuniad

Archebwch yma

 

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws