Dewch draw am sgwrs anffurfiol ac unigol gydag un o’n tiwtoriaid i drafod eich nodau astudio a’n hystod o gymwysterau. Mae dros 8000 o fyfyrwyr ledled Cymru yn astudio’n rhan-amser gyda’r Brifysgol Agored – gallwn ddweud mwy wrthych am sut mae dysgu gyda’r Brifysgol Agored yn gweithio a sut gallwn eich cefnogi chi â’ch astudiaethau.
Gallwn hefyd helpu gyda’ch camau cyntaf tuag at gofrestru gyda ni a sut gall cefnogaeth ariannol newydd Llywodraeth Cymru fod yn fanteisiol i fyfyrwyr sy’n astudio’n rhan amser.
Noder: Os ydych yn fyfyriwr presennol gyda’r Brifysgol Agored a bod angen cyngor arnoch, yr opsiwn gorau i chi yw ymweld â www.open.ac.uk/studenthome lle dangosir y manylion cyswllt priodol ar gyfer eich Tîm Cefnogi Myfyriwr.
Efallai bod gennych ddiddordeb yn y Ddarlith Sgyrsiau Agored gyntaf gan y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Am 6pm ar 30 Ionawr, byddwn yn Chweched Glannau Dyfrdwy – y Ganolfan Chweched Dosbarth ar gampws Glannau Dyfrdwy – dewch i gael gwybod sut mae academyddion y Brifysgol Agored wedi cyfrannu at y gyfres deledu hynod lwyddiannus gan y BBC, sef Blue Planet II, yn ein darlith gyhoeddus ar 30 Ionawr, 6pm. I archebu eich tocyn am ddim ac am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i: https://www.open.ac.uk/wales/cy/digwyddiadau/blue-planet-ii-y-wyddoniaeth-y-tu-%C3%B4l-i-gyfres-y-bbc
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw