Efallai bod gennych gwestiynau am sut fyddai astudio gyda ni’n gweithio i chi. Dewch draw am sgwrs anffurfiol ac unigol gydag un o’n tiwtoriaid a/neu Gynghorwyr Myfyrwyr i drafod eich amcanion astudio a’n dewis o gymwysterau. Gallwn esbonio sut mae astudio gyda’r Brifysgol Agored yn gweithio a sut allwn ni eich cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Yn ogystal, gallwn roi gwybodaeth i chi am gefnogaeth ariannol, cyllid ac opsiynau talu, a’ch arwain drwy’r camau cyntaf sydd angen i chi eu cymryd er mwyn cofrestru â ni.
Nid oes angen gwneud apwyntiad, dim ond galw heibio.
Noder: Os ydych yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored ar hyn o bryd a’ch bod angen cymorth, yr opsiwn gorau i chi yw ymweld â www.open.ac.uk/studenthome lle gallwch weld y manylion cyswllt priodol ar gyfer eich Tîm Cefnogi Myfyrwyr
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Find your personal contacts including your tutor and student support team:
Contact the OUHelp with the University’s computing systems:
Computing Guide Computing Helpdesk System StatusHelp with accessing the online library, referencing and using libraries near you:
Library help and support© 9999.