A ydych yn ystyried gloywi eich sgiliau am swydd newydd neu well?
A ydych wedi ystyried gwneud cwrs prifysgol rhan-amser?
Dim yn siŵr ble i ddechrau?
Mae rhaglen Mynediad y Brifysgol Agored yn fan cychwyn delfrydol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth prifysgol lwyddiannus. Mae ystod o feysydd pwnc i ddewis ohonynt ac efallai bydd modd i chi astudio am ddim. Am fwy o wybodaeth, dewch draw i'n Diwrnod Agored yn Llyfrgell Dinbych-y-Pysgod.
Galwch heibio yn ystod y dydd, neu cysylltwch â Cathy Butler er mwyn archebu amser 01437 775151
Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen Mynediad y Brifysgol Agored ewch i: https://www.open.ac.uk/wales/cy/astudio/cyrsiau-chymwysterau/modiwlau-mynediad
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw