Dewch i wythnos Agored yr OU a dysgwch sut y gall astudio gyda ni fod y penderfyniad gorau i chi ei wneud erioed.
Os ydych yn newydd i'r byd addysg uwch, gall fod yn brofiad dychrynllyd. Mae llawer o bethau i'w hystyried. Rhaid i chi ddewis y cwrs cywir, gwneud pen a chynffon o'ch cyllid a chanfod ffordd o astudio o gwmpas eich ymrwymiadau eraill. Nid yw'n benderfyniad i'w wneud yn frysiog, ond gall fod yn benderfyniad sy'n newid eich bywyd neu yrfa er gwell.
Ddim yn siŵr pa gwrs yw'r un iawn i chi? Siaradwch â ni am eich nodau astudio ac fe helpwn ni chi i ddewis y llwybr gorau.
Meddwl am y costau? Mae astudio gyda'r OU yn fwy fforddiadwy nag y meddyliwch. Gofynnwch i ni am ffioedd ac opsiynau cyllid.
Eisiau tawelwch meddwl? Yr OU yw'r darparwr astudiaethau israddedig rhan-amser mwyaf yng Nghymru. Dysgwch sut y gallwch chi ymuno â'n cymuned enfawr o fyfyrwyr o'r un meddwl â chi.
Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer ymholwyr newydd fel chi. Does dim angen gwneud apwyntiad. Dewch draw am baned am ddim a sgwrs anffurfiol gydag aelod o'n tîm. Cewch gyngor ymarferol ynglŷn â sut mae'r holl beth yn gweithio, y gefnogaeth a gynigiwn a beth y gallech chi ei gyflawni gyda'r OU.
Os na allwch ddod i'r digwyddiad hwn neu os ydych yn fyfyriwr OU eisoes, ffoniwch ein cynghorwyr cyfeillgar am ragor o gymorth a chyngor ar 029 2047 1170.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw