You are here

  1. Hafan
  2. Diwrnod Agored yn Wrecsam

Diwrnod Agored yn Wrecsam

Dyddiad
Dydd Iau, Hydref 25, 2018 - 10:00 tan 16:00
Lleoliad
Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam LL11 1AU
Cysylltwch
OU in Wales Events

 

Dewch i wythnos Agored yr OU a dysgwch sut y gall astudio gyda ni fod y penderfyniad gorau i chi ei wneud erioed.

Os ydych yn newydd i'r byd addysg uwch, gall fod yn brofiad dychrynllyd. Mae llawer o bethau i'w hystyried. Rhaid i chi ddewis y cwrs cywir, gwneud pen a chynffon o'ch cyllid a chanfod ffordd o  astudio o gwmpas eich ymrwymiadau eraill. Nid yw'n benderfyniad i'w wneud yn frysiog, ond gall  fod yn benderfyniad sy'n newid eich bywyd neu yrfa er gwell.

  • Ddim yn siŵr pa gwrs yw'r un iawn i chi? Siaradwch â ni am eich nodau astudio ac fe helpwn ni chi i ddewis y llwybr gorau.

  • Meddwl am y costau? Mae astudio gyda'r OU yn fwy fforddiadwy nag y meddyliwch. Gofynnwch i ni am ffioedd ac opsiynau cyllid.

  • Eisiau tawelwch meddwl? Yr OU yw'r darparwr astudiaethau israddedig rhan-amser mwyaf yng Nghymru. Dysgwch sut y gallwch chi ymuno â'n cymuned enfawr o fyfyrwyr o'r un meddwl â chi.

Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer ymholwyr newydd fel chi. Does dim angen gwneud apwyntiad. Dewch draw am baned am ddim a sgwrs anffurfiol gydag aelod o'n tîm. Cewch gyngor ymarferol ynglŷn â sut mae'r holl beth yn gweithio, y gefnogaeth a gynigiwn a beth y gallech chi ei gyflawni gyda'r OU.

Os na allwch ddod i'r digwyddiad hwn neu os ydych yn fyfyriwr OU eisoes, ffoniwch ein cynghorwyr cyfeillgar am ragor o gymorth a chyngor ar 029 2047 1170.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws