Gall y rhai sy'n chwilio am gyflogaeth neu sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa neu wella eu haddysg ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn Ffair Gyrfaoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf fis nesaf.
Yr achlysur, sydd am ddim, yw'r diweddaraf mewn cyfres o fentrau poblogaidd sydd wedi eu trefnu gan y Cyngor er mwyn sicrhau bod trigolion o bob oed yn cael y cyngor a'r gefnogaeth am gyflogaeth, addysg a hyfforddiant y maen nhw eu hangen.
Mae achlysuron blaenorol wedi denu dros 1,000 o ymwelwyr ar y diwrnod a’r disgwyl yw y bydd y Ffair Gyrfaoedd ar 12 Medi yr un mor boblogaidd, gan gynnig cynrychiolwyr o ystod eang o sefydliadau a busnesau sydd am rannu eu swyddi a'u cyfleoedd hyfforddi.
Bydd yr achlysur hefyd yn cynnwys gweithdai ar faterion allweddol megis cyfweliadau swyddi a chwblhau ffurflenni cais, datblygu gyrfa mewn gofal cymdeithasol a dechrau'ch busnes eich hun.
Yn y Ffair Gyrfaoedd bydd cyfle i gwrdd â'r Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant sy'n cydlynu'r Cynllun Prentisiaeth a Rhaglen i Raddedigion Cyngor RhCT a darganfod pryd bydd y broses recriwtio'n cychwyn yn 2019.
Mae'r cyflogwyr a'r darparwyr addysg a hyfforddiant a fydd ar gael drwy gydol y diwrnod
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw