Yn aml, caiff y menopos ei ystyried yn bwnc preifat, yn dabŵ hyd yn oed, ac yn rhywbeth nad yw'n ymwneud â chyflogaeth o gwbl. Ond mae pedwar rheswm pam bod angen i gyflogwyr dalu sylw gofalus i'r menopos.
Ymunwch â'r Athro Jo Brewis o'r Brifysgol Agored wrth iddi amlinellu'r achosion demograffeg, economaidd, cyfreithiol a chyfrifoldeb cymdeithasol hyn. Bydd hefyd yn myfyrio ar ganfyddiadau gwaith ymchwil diweddar ac yn trafod y ffordd y gall cyflogwyr gefnogi eu staff sy'n mynd drwy'r menopos.
Bydd Julie Glyn-Jones, un o Nyrsys Cofrestredig 'Henpicked Menopause In The Workplace', yn ymuno â Jo er mwyn chwalu mythau ac esbonio'r ffeithiau ynghylch y menopos.
Beth i'w ddisgwyl
- Bydd Jo Brewis o'r Brifysgol Agored yn trafod rhai o'r effeithiau y gall symptomau'r menopos eu cael ar brofiadau menywod, pobl drawsrywiol a phobl anghydffurfiol yn y gwaith ac effeithiau gwaith ar y symptomau
- Bydd Jo yn defnyddio canfyddiadau ei gwaith ymchwil ar y menopos yn y gwaith, gan gynnwys gwerthusiad a gwblhawyd yn ddiweddar o ymyriad menopos yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Sherwood Forest ac arolwg mawr a gefnogwyd gan TUC Education
- Bydd Julie Glyn-Jones, sy'n Nyrs Gofrestredig, yn trafod y ffyrdd gwahanol o reoli symptomau'r menopos, gan gynnwys ymyriadau meddygol (HRT), cyfannol, deiet a ffordd o fyw
- Bydd Julie hefyd yn cynnig cyngor ar ble i gael cymorth a sut i gael sgwrs dda gyda'ch meddyg teulu. Bydd hefyd yn annog y rheini sy'n mynd drwy'r menopos i feddwl am eu hiechyd hirdymor a'u hathroniaeth bersonol ar gyfer rheoli'r symptomau.
Mae'r digwyddiad hwn yn addas i chi...
- Ni waeth beth fo'ch hunaniaeth o ran rhywedd. Bydd Jo a Julie yn esbonio pam nad yw'r menopos yn 'fater i fenywod' yn unig
- Os oes gennych brofiad personol a hoffech ddysgu mwy
- Os ydych am wneud newid yn eich gweithle
- Os hoffech ddysgu mwy am y menopos a'i symptomau yn gyffredinol, a sut y gallai'r menopos fod yn effeithio arnoch chi yn y gwaith neu eich cydweithwyr.
Archebwch eich tocyn am ddim yma.