You are here

  1. Hafan
  2. Hanesion cenedlaethol a hunaniaethau cenedlaethol; datganoli ym Mhrydain ddoe a heddiw

Hanesion cenedlaethol a hunaniaethau cenedlaethol; datganoli ym Mhrydain ddoe a heddiw

Dyddiad
Dydd Mawrth, Mawrth 12, 2019 - 17:30 tan 19:30
Lleoliad
Yr Hen Lyfrgell, Stryd Working, Yr Ais, Caerdydd CF10 1BH
Cysylltwch
Digwyddiadau Cymru

 

'Bwriad sylfaenol datganoli oedd modd o leihau grym cenedlaetholdeb yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban; ond mae'r cynllun hwnnw wedi methu’n drychinebus.'

Bydd Dr Richard Marsden o'r Brifysgol Agored yn archwilio sut mae syniadau gwahanol ynghylch y gorffennol wedi cyfrannu at yr heriau dirfodol, digynsail sydd bellach yn wynebu'r Wladwriaeth Brydeinig.

Bu i George Orwell ysgrifennu un tro; 'he who controls the present, controls the past'. Gan gymhwyso'r syniad hwn i'r datganoli presennol, bydd Dr Marsden yn ystyried i ba raddau y mae cynnydd datganoli a chenedlaetholdeb eang yng Nghymru, yr Alban ac Iwerddon yn ganlyniad i newidiadau hanesyddol hirdymor. Yn fwy penodol, bydd yn siarad am rhai o'r ffyrdd gwahanol mae cenhedloedd cyfansoddol y DU wedi chwedloni eu gorffennol eu hunain, yn ogystal â'u cysylltiadau hanesyddol gyda'i gilydd ac Ewrop.

Bydd sesiwn holi ac ateb i'r gynulleidfa yn dilyn y ddarlith. Yn ymuno â Dr Marsden bydd Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus, i drafod hanes, hunaniaeth a dyfodol cenedlaethol Cymru.

Drysau'n agor am 5.30pm a'r ddarlith i gychwyn am 6pm. Sicrhewch eich bod yn eistedd erbyn 5.55pm. 

Mae'r tocynnau am ddim, ond mae angen archebu lle. Cliciwch yma i archebu lle.

Os na allwch ddod draw, ewch i'n tudalen Facebook ar y diwrnod lle byddwn yn fyw!

Cynhelir y ddarlith hon mewn partneriaeth â Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ac mae'n rhan o gyfres darlithoedd Hanes y Brifysgol Agored. Am ragor o wybodaeth ynghylch darlithoedd eraill yn y gyfres hon, a sut y gallwch eu gwylio, ewch i dudalen Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol Agored.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws