You are here

  1. Hafan
  2. Iechyd Meddwl a Fi

Iechyd Meddwl a Fi

Dyddiad
Dydd Mercher, Medi 11, 2019 - 18:00 tan 20:15
Lleoliad
Adeilad ALEX, Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Alexandra Rd, Abertawe, SA1 5DU
Cysylltwch
Wales Events
Mental health and me

Ymunwch â ni yn y digwyddiad am ddim hwn i drafod iechyd meddwl a'r profiad o fyw gyda chyflwr iechyd meddwl. Mae'r digwyddiad hwn yn dilyn cydgynhyrchiad Y Brifysgol Agored a'r BBC ‘Psychosis and Me’, a oedd yn mynd ar drywydd profiad yr actor David Harewood o seicosis, ond bydd yn trafod ystod o gyflyrau iechyd meddwl eraill.

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio gyda'r hyrwyddwyr iechyd meddwl a'r sefydliadau gwirfoddol, Mind Cymru a Hafal. Byddwch yn cael y cyfle i wrando ar ystod o siaradwyr yn trafod eu profiadau o iechyd meddwl yng Nghymru o amryw o safbwyntiau gwahanol. Hefyd, byddwch yn gwrando ar academydd Y Brifysgol Agored, Dr Sarah Vicary, a weithiodd ar gydgynhyrchiad Y Brifysgol Agored a'r BBC.

Mae'r digwyddiad hwn yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl, herio stigma, a thrafod y camau sydd angen eu cymryd yn y dyfodol i gefnogi pobl gyda'u hanghenion iechyd meddwl.

Beth i'w ddisgwyl

  • Gan ddefnyddio clipiau o'r rhaglen ddogfen, bydd Dr Sarah Vicary yn siarad am iechyd meddwl yn dilyn ei gwaith llwyddiannus gyda ‘Psychosis and Me’. Hefyd, bydd Sarah yn edrych ar enghreifftiau o ragfarn yn dilyn diagnosis a'r stigma sy'n gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl.
  • Byddwch yn gwrando ar hyrwyddwyr iechyd meddwl sy'n byw yng Nghymru yn siarad. Bydd yr unigolion hyn yn sôn am eu straeon personol o ddiagnosis i driniaeth, i fywyd pob dydd gyda chyflwr iechyd meddwl.
  • Bydd Judith Davies, Pennaeth Gwaith Cymdeithasol (Cymru) yn Y Brifysgol Agored, yn myfyrio ar ei phrofiad proffesiynol helaeth ac yn trafod y cyfrifoldeb sydd arnom ni oll i hybu iechyd meddwl da. Mae gan Judith brofiad helaeth mewn Gwasanaethau Cymdeithasol, yn y Sector Gwirfoddol, gyda'r NHS ac fel Uwch-reolwr mewn Datblygu Strategaeth Iechyd Meddwl.

Mae cyfraniad Mind Cymru a Hafal yn y digwyddiad hwn yn rhan o ymgyrch ar y cyd Amser i Newid Cymru.

Mae'r tocynnau am ddim, ond mae angen archebu lle. Cliciwch yma i archebu lle.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws