You are here

  1. Hafan
  2. Planedau a sêr: ymdrochi yn ffurfafen y nos

Planedau a sêr: ymdrochi yn ffurfafen y nos

Dyddiad
Dydd Gwener, Mehefin 28, 2019 - 20:00 tan Dydd Sadwrn, Mehefin 29, 2019 - 00:30
Lleoliad
Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Libanus, Brycheiniog LD3 8ER
Cysylltwch
OU in Wales Events

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi ymuno ag Awyr Dywyll Cymru ar gyfer y digwyddiad gofod anhygoel hwn.

Beth i'w ddisgwyl

Byddwch yn dysgu am y sêr ac am gysawd yr haul mewn dwy ddarlith ddiddorol:

  • Bydd academyddion o'r Brifysgol Agored a fu'n gweithio y tu ôl i'r llenni yn ystod cyfres bresennol y BBC: Y Planedau, yn mynd â chi'n ddyfnach i'r wyddoniaeth y tu ôl i gysawd yr haul, gan drafod pynciau megis prif blanedau, lleuadau rhewllyd a newid hinsawdd ar blaned Mawrth.  
  • Arbenigwyr seryddiaeth o Awyr Dywyll Cymru fydd yn mynd â chi drwy'r llwybr llaethog yn eu planetariwm digidol. Cewch eich tywys ar daith fytholegol o'r ffurfafen a byddwch yn archwilio'r bydysawd modern gan gynnwys galaethau a nifylau.

Ar ôl y darlithoedd byddwn yn eich helpu i weld planedau yn ffurfafen y nos ac i syllu ar y sêr gyda thelesgopau arbenigol mewn un o'r ychydig warchodfeydd awyr dywyll yn y byd. Gallwch lywio eich ffordd drwy gytserau hemisffer y gogledd gan ddefnyddio cyngor arbenigol a mapiau'r sêr. 

Diodydd poeth, cacen, bisgedi ac awyrgylch gwych.

Mae'r tocynnau am ddim, ond mae'n hanfodol eich bod yn archebu lle: https://planets-planedau.eventbrite.co.uk

Gwybodaeth bwysig

Bydd ein gallu i syllu ar y sêr yn dibynnu ar ba mor glir ydyw, amodau'r tywydd ac awyr dywyll. Mae hyn yn golygu y bydd popeth yn digwydd yn hwyr y nos a gall orffen ar ôl hanner nos.

Gall y digwyddiad hwn fod yn yr haf, ond cofiwch mai yng Nghymru rydyn ni. Mae gennym ddiodydd poeth yn barod i chi ond gwnewch yn siŵr fod gennych sawl haen o ddillad i'ch cadw'n dwym, a gwisgwch esgidiau caeedig call oherwydd gall syllu ar y sêr fod yn brofiad oer. 

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws