Drwy ein gwaith polisi a materion cyhoeddus rydym yn ceisio sicrhau bod polisi addysg uwch yng Nghymru yn cefnogi anghenion dysgwyr rhan amser.
Gwnawn hyn drwy adeiladu ac atgyfnerthu cydberthnasau â Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, Aelodau o’r Senedd, a rhanddeiliaid eraill fel Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Phrifysgolion Cymru.
Mae addysg uwch rhan amser yn newid bywydau ac yn cyfrannu'n sylweddol at economi Cymru. Ond mae nifer y myfyrwyr rhan amser yn gostwng ac mae llai o gyrsiau yn cael eu cynnig. Er mwyn i Gymru ffynnu yn economaidd ac yn gymdeithasol, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y drws i addysg uwch rhan amser yn aros yn agored.
Dyna pam ein bod wedi nodi saith ffordd y gall gwleidyddion a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill yng Nghymru gefnogi addysg uwch rhan amser:
Yr ydym yn falch o weld Adolygiad Llywodraeth Cymru o Gyllido Addysg Uwch a Threfniadau Cyllido Myfyrwyr yn cyfeirio at nifer o'r materion hyn, ond mae mwy gall cael ei wneud i warchod a hyrwyddo addysg uwch rhan amser.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bob un o'r rhain yn ein crynodeb Mae Addysg Rhan Amser yn Bwysig neu darllenwch ein papur briffio llawn.
Mwy mwy o wybodaeth ar ein gwaith polisi yn ein Ymatebion a Chyhoeddiadau.
Ochr yn ochr â'n gwaith polisi yr ydym hefyd yn denyfddio cyfarfodydd, digwyddiadau a'r cyfryngau i godi proffil Y Brifysgol Agored a myfyrwyr rhan amser yng Nghymru.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Cerith Rhys-Jones
Rheolwr Materion Allanol