You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Sgiliau Pob Dydd

Sgiliau Pob Dydd

Flexible Essential Skills Partner Logos

Mae'r Brifysgol Agored, mewn partneriaeth â Choleg Gwent, Coleg Cambria, Grŵp Colegau NPTC ac Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, yn cyflwyno amrywiaeth o gyrsiau ar-lein newydd cyffrous yn rhad am ddim i unrhyw un sy'n awyddus i wella ac adnewyddu eu sgiliau Mathemateg a Saesneg bob dydd. Gelwir y rhain yn gyrsiau Sgiliau Bob Dydd ac maent ar gael yn rhad am ddim ar OpenLearn Cymru ac OpenLearn Wales

Mae'r cyrsiau wedi'u dylunio i roi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyd-fynd â chyrsiau addysg bellach eraill, er mwyn gwella rhagolygon gwaith neu ddysgu sgiliau newydd.

Gweithio mewn partneriaeth
Datblygu'r cwrs mathemateg Sgiliau Pob Dydd

Gallwch ddod o hyd i'r cwrs Sgiliau Bob Dydd yma:

Dyma rai o'r buddion personol a phroffesiynol byddwch yn cael trwy astudio'r cyrsiau hyn:

  • Cefnogi plant gyda gwaith cartref
  • Datblygu eich hunan-barch a'ch hyder
  • Gwella eich rhagolygon gwaith a'ch cyflogadwyedd
  • Datblygu eich sgiliau cyfathrebu
  • Dod yn fwy hyderus wrth gwblhau ffurflenni'n gywir

Mae o werth mawr ddysgwyr waeth ble y gallent weld lle astudio traddodiadol.

Michelle Kerswell
Rheolwr y Cwricwlwm, a rheolwr darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg

Mewn partneriaeth, roeddem yn gallu goresgyn heriau i greu dysgu a dealltwriaeth ar y cyd.

Lynnette Thomas
Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Datblygu , y Brifysgol Agored yng Nghymru

Mae’n offeryn gwych ar gyfer gweithgareddau gwaith cartref. Mae’n ei wneud yn fwy unigol i’r dysgwr.

Jayne McGregor
Cydlynydd Prosiect, Coleg Gwent

Straeon Dysgwyr

Buom yn siarad â dau berson sydd wedi bod yn astudio’r cyrsiau mathemateg a Saesneg.

Alireza Zamani, Saseneg Pob Dydd
Ryan Davies, Mathemateg Pob Dydd

Dysgwch gyda chefnogaeth y coleg er mwyn ennill cymhwyster

Cysylltwch â'r ganolfan bartner, ble y gofynnir i chi sefyll asesiad dechreuol, o bosib.  Bydd y ganolfan yn eich arwain o ran pa gwrs a chymhwyster yw'r un addas ar gyfer lefel eich sgil, naill ai cyrsiau Sgiliau Bob Dydd neu'r cymhwyster Sgiliau Hanfodol.

Canolfannau partner sy'n cymryd rhan:

Dysgwch am gymhwyseddau Sgiliau Hanfodol Cymru a'r cymhwysedd Sgiliau gweithredol, ar gael yn Lloegr.