You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Yn y gymuned

Yn y gymuned

Rydym yn gweithio mewn cymunedau ar draws Cymru i wneud cyfleoedd dysgu ar gael i bobl.

Mae ein gwaith yn y gymuned yn canolbwyntio ar y rhai nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol mewn addysg uwch yn draddodiadol, megis y rhai sy'n byw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, gofalwyr a phobl anabl.

Mae model darparu addysg uwch y Brifysgol Agored yn golygu ein bod ni'n gallu cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr yn wahanol i brifysgolion eraill.  Nid ydych angen cymwysterau i astudio gyda'r Brifysgol Agored, sy'n golygu bod croeso i bawb.

Mae ein partneriaethau yn hanfodol er mwyn gallu cyrraedd myfyrwyr a fyddai'n elwa o astudio gyda ni. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau i gynnig nifer o gyfleoedd dysgu hyblyg, sy'n darparu llwybrau dilyniant i mewn i addysg uwch.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Am fwy o wybodaeth

Am ein gwaith neu i drafod cyfleoedd partneriaeth, cysylltwch â'n tîm ehangu mynediad.