You are here

  1. Hafan
  2. ‘Fe wnaethon ni ysbrydoli ein gilydd i ddal ati’

‘Fe wnaethon ni ysbrydoli ein gilydd i ddal ati’

Laura Barret a Jon Thrower yn dathlu gyda siampên

I'r cwpl Laura Barrett a Jon Thrower, mae cwblhau cymwysterau’r Brifysgol Agored yn achos dathliad dwbl. Ar ôl cyfarfod yn 2015, sylweddolodd y pâr eu bod ill dau yn astudio ar gyfer graddau gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru a chyn bo hir dechreuodd eu partneriaeth, eu cyfeillgarwch, eu hastudiaethau a’u perthynas flodeuo. Ar ôl blynyddoedd o astudio ac ysbrydoli ei gilydd, mae'r cwpl bellach wedi cwblhau eu cymwysterau gyda'i gilydd ac yn falch o fod yn rhan o ddosbarth graddio 2020.

Y camau cyntaf i addysg uwch

Magwyd Laura a Jon mewn gwahanol rannau o’r DU, ac nid oes gan y naill na’r llall yr hyn y maent yn ei ddisgrifio fel ‘llwybr safonol’ i addysg uwch. Magwyd Jon, o Aberdaugleddau, Sir Benfro, yng nghysgod y purfeydd olew a’r diwydiant morwrol ac fe’i hanogwyd i ddilyn llwybr i mewn i beirianneg. Ond yn ei eiriau ef, ‘nid oedd y pwnc wedi tanio ei ysbrydoliaeth’, a dyma benderfynu cymryd swydd rheolwr mewn archfarchnad leol yn lle mynd i ffwrdd i’r brifysgol.

Gwnaeth Laura, a aeth i'r ysgol yn Swydd Amwythig ac sydd bellach yn byw yn Hwlffordd, yn dda iawn yn yr ysgol i ddechrau ond gadawodd yn 14 oed heb unrhyw TGAU yn dilyn trasiedïau personol ac anawsterau iechyd meddwl. Dechreuodd ar gwrs coleg, ac er i hyn brofi’n rhy anodd iddi, awgrymodd ei thad y dylai roi cynnig ar y Brifysgol Agored.

Pan anwyd mab Laura yn 2010, cafodd ei hysbrydoli i ddechrau pennod newydd yn ei bywyd:

“Ganwyd fy mab Dylan Christopher, ac ar ôl penderfynu ceisio gwella rhagolygon ei fywyd ef a fy mywyd i, es ati i fentro a dechrau gradd yn y Brifysgol Agored yn dilyn cyngor fy Nhad. Cefais fy nenu i'r Brifysgol Agored oherwydd yr hyblygrwydd yr oedd yn ei gynnig o ran magu plant a gwaith, a chan y polisi mynediad agored sy'n cyd-fynd â'm gwerthoedd ac ethos fy hun."

Dechreuodd Laura weithio tuag at radd yn y celfyddydau ond yn dilyn seibiant yn 2012 penderfynodd newid i astudio Gradd Agored, ac astudiodd sawl modiwl gwyddorau cymdeithasol gan fod hyn yn cyd-fynd yn fwy â’i dyheadau, ac oherwydd ei phrofiadau ei hun o fyw gydag anabledd.

“Rwyf wedi darganfod bod fy iechyd meddwl wedi sefydlogi trwy ddeall y byd o safbwynt beirniadol,” meddai Laura. “A thrwy wneud hyn gallaf nawr gymryd cam yn ôl oddi wrth bethau sy’n ennyn emosiynau annymunol. Nid ‘fel na mae hi’ yw’r unig ateb bellach wrth ofyn pam mae pethau’n digwydd.”

Darganfod hyblygrwydd a chyfeillgarwch

Ar ôl ychydig flynyddoedd o weithio yn ei archfarchnad leol, penderfynodd Jon fentro ac archwilio addysg uwch. Gyda diddordeb brwd mewn gwleidyddiaeth a seicoleg, roedd Gradd Agored y Brifysgol Agored yn berffaith gan ei bod yn caniatáu i Jon archwilio gwahanol bynciau yr oedd yn angerddol amdanynt.

“Hefyd, ni allaf or-bwysleisio pa mor bwysig oedd gallu astudio o bell,” eglura Jon. “Erbyn i mi benderfynu mynd i addysg uwch, nid oedd yn briodol iawn i mi bacio fy magiau a mynd i'r brifysgol. Caniataodd y Brifysgol Agored i mi ddilyn fy nyheadau o gysur fy nghartref fy hun a ffitio fy amser astudio o amgylch fy ymrwymiadau eraill."

Yn yr un modd â llawer o fyfyrwyr y Brifysgol Agored, roedd Laura a Jon yn aml yn teimlo pwysau terfynau amser yn gymysg â bywyd bob dydd ond byddent yn aml yn cefnogi ei gilydd drwyddo. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethant osod cynllunydd wal enfawr yng nghegin Laura i gadw golwg ar apwyntiadau. Maent yn aml yn hel atgofion am rai o'r amseroedd cyffrous hefyd, fel eu sgôr aseiniad cyntaf erioed, a llunio rhestr chwarae ar gyfer teithio i lawr i Gaerdydd ar gyfer sesiynau tiwtorial!

“Mae Jon wedi bod yn ysbrydoliaeth enfawr trwy gydol fy astudiaethau. Gallaf ddweud yn onest na fyddwn wedi cyrraedd y pwynt hwn heb ei ddylanwad,” meddai Laura.

“A’r person sydd wedi fy ysbrydoli i fwyaf yw Laura,” ychwanega Jon. “Mae hi wedi wynebu anawsterau aruthrol gyda’i hiechyd meddwl trwy gydol ei thaith ac mae’r hyn y mae wedi’i gyflawni yn wirioneddol ryfeddol. Mae ei stori a'i chyflawniadau yn ymgorffori'r hyn y mae'r Brifysgol Agored yn ei gynrychioli.”

‘Er gwaethaf COVID-19, fe lwyddon ni!’

Ar ôl blynyddoedd o waith caled ac astudio gyda'i gilydd, cwblhaodd Jon a Laura eu Graddau Agored yn 2020. Mae'r pâr yn bwriadu parhau â'u taith yn y Brifysgol Agored gyda'i gilydd trwy astudio ar gyfer MSc mewn Seicoleg. Er gwaethaf methu â dathlu eu llwyddiant mewn seremoni radd fel yr oeddent yn gobeithio, mae Laura a Jon ill dau wedi ymuno yn nathliadau rhithwir y Brifysgol Agored, ac yn annog graddedigion eraill, a’u ffrindiau a’u teulu i gymryd rhan hefyd. Maen nhw ill dau ymhlith sawl myfyriwr sy’n ymddangos mewn fideo newydd ‘Dosbarth 2020’, sy’n cynnwys rhai o raddedigion enwog y Brifysgol Agored, fel y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol, Nigel Walker.

Llongyfarchiadau i Laura, Jon a phob un o Ddosbarth y Brifysgol Agored yn 2020 - ar ran holl deulu'r Brifysgol Agored yng Nghymru a ledled y byd.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891