Mae'r Rheolwr Materion Allanol Cerith Rhys-Jones yn trafod manifesto'r Brifysgol Agored yng Nghymru ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021.
Ar ôl y flwyddyn a brofwyd gan bob un ohonom, efallai bod meddwl am beth fydd yn digwydd ar ôl mis Mai nesaf yn eithaf rhyfedd, ond gydag etholiad y Senedd ar y gorwel, mae'n rhaid i ni wneud hynny.
Mae'r etholiad yn rhoi cyfle i ni feddwl am sut yr hoffem i Gymru adfer ar ôl pandemig y Coronafeirws: beth hoffem ei weld yn newid, a beth hoffem ei gadw.
Fis diwethaf, cyhoeddodd y Brifysgol Agored yng Nghymru ein maniffesto ein hunain, sy'n nodi'r math o bethau y dymunwn i Lywodraeth nesaf Cymru eu gwneud, er mwyn i addysg fod ar gael i bawb.
Cerith Rhys-Jones
Fe roesom ni'r enw Cymru Ddewr Newydd arno, am ein bod ni'n credu y bydd y llywodraeth nesaf angen bod yn ddewr os yw am lwyddo i newid y ffordd mae pawb yn meddwl am addysg a dysgu.
Ni allwn adael iddo fod yn rhywbeth sy’n rhoi i ni un cyfle yn unig i'w wneud, ond yn hytrach, proses gydol oes y gallwn fynd yn ôl ati wrth ddelio ag ymrwymiadau a blaenoriaethau eraill.
Rydym wedi rhannu ein gofynion rhwng chwe phrif thema, sy'n ymdrin yn eang â’r hyn yr hoffem i'r llywodraeth nesaf ganolbwyntio ei hymdrechion arnynt. Dyma rai o'r pethau pwysicaf.
Yn gyntaf, rydym yn credu y dylai'r llywodraeth nesaf ddarparu sefydlogrwydd yn y system cyllid myfyrwyr ddiwygiedig.
Dylai hefyd sicrhau bod prifysgolion yn cael y cyllid sydd ei angen arnynt i barhau i ddarparu profiadau myfyrwyr hyblyg o ansawdd uchel.
Yn ogystal, credwn y dylai'r llywodraeth nesaf fuddsoddi mewn gwell seilwaith, er mwyn i ddysgu fod ar gael i bobl drwy gydol eu bywydau.
Pethau megis gosod targed er mwyn atal allgau digidol, a sicrhau bod gan gartrefi yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru fynediad at o leiaf un ddyfais a chysylltiad â'r rhyngrwyd.
Pethau megis archwilio'r gwaith o gyflwyno ac ymestyn llwybrau newydd a hyblyg at broffesiynau megis addysgu, gofal iechyd, a chyfraith.
Pethau megis creu Hawl i Ddysgu Gydol Oes newydd, statudol, a buddsoddi yn ein llyfrgelloedd cyhoeddus er mwyn iddynt fod yn Hybiau Dysgu Cymunedol.
Rydym hefyd yn cydnabod fod Covid-19 a Brexit yn cyflwyno heriau unigryw i ni, felly rydym angen ymestyn prentisiaethau gradd a buddsoddi mewn dysgu yn seiliedig ar waith a dysgu yn y gweithle.
Fodd bynnag, rydym hefyd yn credu y dylai'r llywodraeth nesaf feddwl yn fwy eang am rôl dysgu wrth greu gwlad well ac un sy’n fwy llewyrchus i bawb.
Felly, hoffwn iddynt weithio gyda ni, i gyflwyno cymhwyster Sgiliau Hanfodol newydd mewn dinasyddiaeth, ac ail-feddwl y syniad o Fil Llythrennedd Ariannol.
Wrth gwrs, gwyddom fod yr argyfwng hinsawdd byd-eang yn parhau'n fygythiad wrth i ni ddelio ag argyfwng iechyd byd-eang, ac mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae yn hyn o beth.
Dyna pam yr hoffem iddynt osod targed i ddatgarboneiddio'r sector addysg uwch o fewn 15 mlynedd, os nad cyn hynny.
Mae'r weledigaeth a gyflwynwyd gennym yn lasbrint i warchod y grym a gynhyrchir gan sgiliau a dysgu gydol oes i adfer ac ailadeiladu Cymru well.
Nawr yw'r amser i ni feddwl yn fawr, a chredwn y byddai rhoi dysgu gydol oes wrth wraidd ein hadferiad yn sicr o adeiladu Cymru ddewr newydd y gall ein holl ddinasyddion elwa ohoni.
Ymddangosodd y blog hwn fel erthygl University View yn y Western Mail ar 17 Rhagfyr 2020.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi paratoi cwrs dwyieithog newydd yn rhad ac am ddim i helpu athrawon a darlithwyr yng Nghymru i addysgu myfyrwyr ar-lein.
Beth ydych chi'n ei wybod am ddatganoli a gwleidyddiaeth Cymru? Rhowch gynnig ar ein cwis i weld.
Rhodri Davies
Rheolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891