Mae angen i weithgarwch trawsnewid digidol gael ei arwain o'r brig er mwyn i sefydliadau yng Nghymru ffynnu yn yr oes ddigidol, yn ôl Y Brifysgol Agored.
Daw'r cyngor o adroddiad Y Brifysgol Agored, Leading in a Digital Age, sy'n awgrymu bod cydberthynas rhwng perfformiad busnes ac arweinwyr sy'n gymwys i ymdopi â newid digidol. Canfu'r astudiaeth fod dros naw o bob 10 arweinydd (94%) a oedd wedi cael hyfforddiant digidol wedi symud ymlaen i adrodd ar dwf sefydliadol, o gymharu ag ychydig dros chwech o bob 10 (63%) arweinydd nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant.
Mae Leading in a Digital Age yn cyfuno profiad a dealltwriaeth y brifysgol â gwaith ymchwil newydd gan 950 o brif swyddogion technoleg (CTOs) ac uwch-arweinwyr mewn sefydliadau yn y DU, gan gynnwys 150 o gyflogwyr yng Nghymru.
Yng Nghymru, nid dim ond y llinell waelod sy'n cael budd o ddatblygu sgiliau digidol uwch: mae arweinwyr a oedd wedi buddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau digidol yn gweld gwelliant mewn cynhyrchiant (52%), mwy o gyfranogiad gan gyflogeion (51%), cynnydd yn yr elw (35%), gwell ystwythder (34%) a chynnydd o ran lefelau cadw staff (26%). Yn ogystal â hyn, roedd 77 y cant o arweinwyr busnes yng Nghymru a oedd wedi cael hyfforddiant digidol yn teimlo eu bod yn fwy tueddol o annog cydweithwyr i ymgymryd â chyrsiau tebyg.
Fodd bynnag, gwnaeth llawer o brif swyddogion yng Nghymru a holwyd gyfaddef nad oes ganddynt y sgiliau gofynnol i reoli yn yr oes ddigidol, gyda bron i hanner (45%) yn nodi bod eu sefydliad ar ei hôl hi o ran croesawu technolegau newydd megis deallusrwydd artiffisial, technoleg estynedig ac awtomatiaeth. Mae bron i bedwar o bob 10 (44%) yn dweud y gallent wneud mwy i fynd i'r afael â'u diffyg sgiliau digidol eu hunain ac mae 67 y cant yn cydnabod y byddent yn cael budd o fwy o hyfforddiant digidol.
Mae'r adroddiad yn awgrymu bod diffyg dealltwriaeth o ran arweinyddiaeth ddigidol yn rhwystr allweddol i hyfforddiant digidol yng Nghymru. Mae mwy na thraean (43%) o arweinwyr yn cyfaddef nad ydynt yn siŵr ble i ddechrau o ran datblygu eu sgiliau digidol eu hunain. Ymhellach, mae bron i ddau draean (64%) yn dweud eu bod yn dueddol o brynu'r sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt yn hytrach na hyfforddi eu gweithle. Fodd bynnag, mae'r brifysgol o'r farn y byddai diwylliant o ddysgu a datblygu parhaus yn unol â chynnydd digidol yn atal y rhwystrau hyn rhag dod i'r amlwg ar gyfer sefydliadau yn yr oes ddigidol.
Mae'r gweithle yn esblygu'n ddi-baid, gyda thechnolegau a datblygiadau newydd sy'n tarfu yn galw ar sefydliadau i barhau i dyfu ac addasu neu wynebu'r perygl o gael eu gadael ar ôl. Nid yw hyn yn wahanol yng Nghymru. Ni allwn fforddio i sefydliadau golli gafael ar eu sgiliau digidol a chael eu gadael ar ôl. Mae angen i arweinyddiaeth yn y wlad hon addasu i fyd sy'n newid o hyd, lle mae'r rheini sydd wrth y llyw yn meddu ar y sgiliau priodol, neu'n eu datblygu, er mwyn ffynnu mewn oes ddigidol a'u galluogi i arwain gyda hyder a dylanwad.
Heb ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r gweithle digidol, sut y bydd cyflogwyr yn gwybod pa gwestiynau i ofyn, na pha gamau i'w cymryd? Drwy fethu ag addasu i'r byd digidol neu fuddsoddi mewn sgiliau newydd, mae'n bosibl y bydd rhai arweinwyr yn dechrau gweld newid mewn pŵer, gydag amheuon yn codi mewn perthynas â'u gallu i arwain yn gyfrifol. Mae'n bosibl y bydd cyflogeion yng Nghymru hefyd yn ceisio chwilio am arweinyddiaeth fwy arloesol yn rhywle arall, yn enwedig o ystyried diwydiant technegol ffyniannus Cymru. O ganlyniad felly, rydym o'r farn mai'r uwch-arweinwyr hynny sy'n mabwysiadu diwylliant o ddysgu digidol gydol oes fydd yn ffynnu yn yr oes ddigidol hon, gan wella eu helw yn ogystal â ffyddlondeb y staff, y broses o ymgysylltu â nhw a'u cadw.
Lynnette Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru
'Rydym yn byw mewn oes ddigidol lle mae'r broses o ddatblygu technoleg yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau, o'r gweithle i'r cartref.', meddai Canghellor Y Brifysgol Agored, y Farwnes Martha Lane-Fox. 'Fodd bynnag, mewn cyd-destun busnes, mae'r byd digidol yn cyflwyno cyfle gwirioneddol i sicrhau mwy o elw, ond ar gyfer y rheini sy'n gwrthod croesawu'r newid, mae risg wirioneddol y byddant yn cael eu gadael ar ôl.'
'Er mwyn i fusnes lwyddo yn y byd hwn, mae angen i weithleoedd allu defnyddio pŵer technolegau digidol, a deall sut y gall technoleg gael effaith gadarnhaol ar eu gwaith. Mae arweinyddiaeth ddigidol yn hollbwysig o ran sicrhau bod y weledigaeth hon yn gweithio, gydag uwch-dimau yn mabwysiadu diwylliant o addasu digidol, gan ddechrau drwy wella eu sgiliau digidol eu hunain, ac yna'n rheadru'r ddealltwriaeth honno i bob rhan o'r sefydliad.'
Lawrlwythwch Leading in a Digital Age yn fan hyn.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Heddiw mae prifysgolion yng Nghymru wedi lansio fframwaith cennad ddinesig newydd i helpu prifysgolion i adeiladu ar y ffyrdd maen nhw’n gweithio gyda phobl, ysgolion a chymunedau.
Mae'r Rheolwr Materion Allanol Cerith Rhys-Jones yn trafod manifesto'r Brifysgol Agored yng Nghymru ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021.
Rhodri Davies
Rheolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891