Mae’r Panel Adolygu Annibynnol ar Gymwysterau yng Nghymru wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol heddiw.
Dros gyfnod o dri mis, yr ydym wedi ymgynghori’n eang er mwyn deall yr heriau gyda sut y dyfarnwyd TGAU, lefel-A a chymwysterau galwedigaethol yn 2020, ac i sicrhau bod gwersi 2020 yn sail i broses 2021.
Mae ein hadroddiad yn canmol gwaith caled a phroffesiynoldeb pawb a weithiodd ar gymwysterau yn 2020. Mae’r gwaith caled yn parhau yn awr yn sgil heriau parhaol 2021.
Yr ydym hefyd yn tynnu sylw at sawl mater a gododd o ddiffygion yn y systemau a'r prosesau cyffredinol a gymhwyswyd, gan gynnwys:
Mae’r pandemig wedi cael effaith ddwys ar bob agwedd ar fywyd yng Nghymru, yn enwedig addysg a dyfarnu cymwysterau i ddysgwyr ifanc yn ystod rhai o flynyddoedd mwyaf ffurfiannol eu bywydau.
Ni allai unrhyw un, gan gynnwys Llywodraeth Cymru nac unrhyw un yn y sector addysg, fod wedi rhagweld hyn, a bu’n rhaid gwneud llawer o benderfyniadau allweddol ar y dull newydd o ddyfarnu cymwysterau yn gyflym iawn.
Er bod y rhai a wnaeth y penderfyniadau wedi gwneud hynny’n ddiwyd ac yn credu eu bod yn sicrhau canlyniadau teg a chymaradwy, collwyd cyfleoedd i gyflwyno mesurau diogelwch a fyddai wedi sicrhau bod dysgwyr unigol wedi derbyn canlyniadau teg iddyn nhw eu hunain.
Mae’r panel yn casglu y gallai profiadau i ddysgwyr wedi bod yn well pe bai’r sefydliadau sy’n gyfrifol am weinyddu arholiadau a chymwysterau wedi gweithio’n fwy cydweithredol gydag ysgolion a cholegau. Dylai mwy o ystyriaeth wedi cael ei rhoi i’r risgiau o ddibynnu ar brosesau ystadegol i gynhyrchu canlyniadau ar lefelau unigol. A dylid bod wedi rhoi mwy o sylw i sicrhau cyfathrebu dwyffordd da gyda dysgwyr a'r rhai sy'n eu cefnogi.
Yn ystod 2020, gweithiodd staff mewn ysgolion, colegau a chyrff cymwysterau yn ddiflino i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru i gael y graddau yr oeddent yn eu haeddu, a hyn o dan rai o'r amgylchiadau anoddaf. Yr ydym wedi llunio ein hargymhellion er mwyn sicrhau y bydd gwaith caled pawb yn cael mwy o draw-effaith yn 2021.
Mae’r pandemig yn parhau i effeithio ar ddysgu yn y flwyddyn academaidd hon, ac mae gan ddysgwyr sicrwydd eisoes na fyddant yn sefyll cyfres arholiadau draddodiadol yr haf hwn, gan roi cyfle i’r sector cyfan roi model mwy cadarn ar waith ar gyfer 2021 a sicrhau bod gwersi 2020 yn cael ei gweithredu.
Mae’r argymhellion rydyn ni wedi’u cyhoeddi heddiw yn dilyn argymhellion ein hadroddiad interim cynharach ac yn cael eu gwneud yn yr ysbryd o helpu i greu system decach a mwy tryloyw o ddyfarnu cymwysterau yn 2020-21 a thu hwnt.
Hoffwn ddiolch i’r nifer sylweddol o bobl a gyfrannodd at sail tystiolaeth yr adolygiad, gan gynnwys ysgolion, colegau, cyrff cymwysterau a rheoleiddwyr, rhieni ac, yn bwysicaf oll efallai, dysgwyr. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant hefyd i aelodau’r panel am eu craffter a’u gwaith diflino dros y misoedd diwethaf.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae Life … On Our Terms yn gyfres podlediad wyth pennod gan y Brifysgol Agored (OU) sy'n trafod amrywiaeth o bynciau am fywyd a'r llwybrau ysbrydoledig at lwyddiant a gymerwyd gan rai enwau enwog. Mae'r gyfres hefyd yn clywed yn uniongyrchol gan fyfyrwyr israddedig ifanc y Brifysgol Agored, y mae gan bob un ohonynt stori ddiddorol i'w rhannu.
Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cyhoeddi bod mwy o leoedd ar gael ar ei chynllun gradd nyrsio llwyddiannus, sy'n rhoi cyfle i gynorthwywyr gofal iechyd astudio am radd nyrsio yn hyblyg wrth barhau i weithio yn eu hysbyty neu gartref gofal lleol.
Rhodri Davies
Rheolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891