Mae 92% o arweinwyr busnes uwch yng Nghymru yn dweud eu bod yn cael anawsterau i gyflogi gweithwyr â'r sgiliau sydd eu hangen
Mae mwy na hanner (58%) yn dweud bod eu sefydliad wedi cael anhawster oherwydd y diffyg sgiliau yn y flwyddyn ddiwethaf
Cafodd 64% anhawster i gyflogi ar gyfer swydd reoli neu arwain yn y 12 mis diwethaf
Cafodd y mwyafrif o sefydliadau a arolygwyd yng Nghymru (92%) anhawster i ddod o hyd i weithwyr â'r sgiliau cywir dros y 12 mis diwethaf, yn ôl adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Y Brifysgol Agored.
Mae Baromedr Busnes Y Brifysgol Agored, sy'n monitro tirwedd sgiliau'r DU, yn datgelu bod cyflogwyr yng Nhymru yn talu pris uchel er mwyn sicrhau bod gan eu sefydliadau'r sgiliau sydd eu hangen i barhau i fod yn gynhyrchiol. Mae'r diffyg sgiliau bellach yn costio £355 miliwn ychwanegol y flwyddyn i sefydliadau mewn ffioedd recriwtio, cyflogau chwyddedig, staff dros dro a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr a gyflogwyd ar lefel is na'r bwriad. Nid yw sefydliadau yng Nghymru'n obeithiol, mae 68% o'r farn bod y diffyg sgiliau wedi gwaethygu yn y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn uwch na chyfartaledd y DU (61%) sy'n awgrymu y teimlir effeithiau'r diffyg yn fwy yng Nghymru.
Tra bod ychydig dros hanner (51%) o gyflogwyr yn y DU wedi cael eu gorfodi i adael rôl yn wag oherwydd diffyg sgiliau priodol gan ymgeiswyr, teimlir effeithiau'r diffyg yn fwy yng Nghymru, gyda bron i dri o bob pum cyflogwr (61%) yn gorfod gadael swydd heb ei llenwi.
Treuliau | Cost |
---|---|
Costau recriwtio ychwanegol | £70 miliwn |
Cynyddu cyflogau a gynigir | £142 miliwn |
Hyfforddiant ar gyfer y rhai hynny a gyflogwyd ar lefel is | £56 miliwn |
Staffio dros dro | £87 miliwn |
Gyda sgiliau'n brin, mae bron i dri chwarter arweinwyr busnes uwch Cymru (74%) yn gweld bod y broses recriwtio yn cymryd mwy o amser – un mis a 25 o ddiwrnodau yn fwy ar gyfartaledd. O ganlyniad, mae 70 y cant yn dweud eu bod yn gwario mwy ar recriwtio - cyfanswm o £70 miliwn yn fwy na'r disgwyl.
Tra bod y broses yn cymryd mwy o amser, pan gaiff gweithwyr talentog sydd â'r sgiliau y mae galw amdanynt eu nodi, gallant fanteisio ar eu sefyllfa gref, gan arwain cyflogwyr yng Nghymru i wario £142 miliwn ychwanegol ar gyflogau. Bu'n rhaid i bron hanner y cyflogwyr (48%) gynyddu'r cyflog a gynigir y llynedd, ar bum achlysur fel arfer, £5,265 bob tro ar gyfartaledd.
Gorfodwyd nifer o sefydliadau i roi'r gorau i ddod o hyd i'r dalent briodol, gan ddewis naill ai i gyflogi rhywun ar lefel is na'r disgwyl (57%) neu adael y rôl yn wag (61%). Er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau a adawyd drwy wneud hyn, gwariodd cyflogwyr yng Nghymru £56 miliwn ar hyfforddiant i ddod â gweithwyr i'r lefel sy'n ofynnol ac £87 miliwn arall ar staffio dros dro.
Nid effaith ariannol yw unig anfantais y diffyg sgiliau. Mae dros hanner y sefydliadau yng Nghymru (52%) yn cyfaddef nad ydynt mor ystwyth ag y mae angen oherwydd prinder sgiliau, ac mewn hinsawdd wleidyddol, economaidd a thechnolegol sy'n newidiol mae hyblygrwydd a'r gallu i addasu yn hanfodol. Mae sgiliau rheoli ac arwain yn arbennig o bwysig er mwyn llywio newid yn ddidrafferth, ond eto dywedodd bron i ddau o bob tri sefydliad (64%) mai'r rôl y cawsant fwyaf o anhawster yn cyflogi ar ei chyfer yn ddiweddar oedd swydd arwain neu reoli, sy'n achos pryder.
Mae dros hanner yr arweinwyr uwch yng Nghymru (56%) yn disgwyl i'r sefyllfa waethygu dros y 12 mis nesaf, ac mae bron i hanner (40%) ohonynt yn disgwyl i'w sefydliad gael anawsterau ariannol yn y flwyddyn nesaf, sy'n awgrymu bod angen mynd i'r afael â'r broblem ar unwaith.
Dywed Lynnette Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Gwaith Datblygu yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru: "Mae cyflogwyr yng Nghymru yn gwario mwy na £350 miliwn y flwyddyn ar y diffyg sgiliau ond dull gweithredu tymor byr yw prynu sgiliau yn hytrach na'u hadeiladu, ac ni fydd yn dwyn ffrwyth yn y pen draw. Mae'n hollbwysig bod sefydliadau'n mabwysiadu dull mwy cynaliadwy, gan ddefnyddio hyfforddiant i fynd i'r afael â'r bylchau yn eu sgiliau yn fewnol a lleihau eu gwariant yn yr hirdymor.
"Bydd buddsoddi mewn hyfforddiant seiliedig ar waith, sy'n galluogi gweithwyr i ennill cyflog wrth dysgu, yn helpu sefydliadau yng Nghymru i bontio'r bwlch rhwng y sgiliau sydd ar gael yn y farchnad lafur a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, a'u galluogi i ganolbwyntio ar sefydlogrwydd a thwf yn y dyfodol. Yn syml, bydd hyfforddiant a datblygiad gwell yn arwain at weithluoedd mwy ystwyth, teyrngar, cryf eu cymhelliant a chynhyrchiol sy'n gwbl barod i wynebu heriau newydd ac arwain sefydliadau ymlaen."
Mae'r adroddiad llawn ar gael yn www.openuniversity.co.uk/ukskills
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Cynhaliodd y Brifysgol Agored yng Nghymru ddigwyddiad yn dilyn y rhaglen 'Our Dementia Choir', a gafodd ei chynhyrchu ar y cyd rhwng y BBC a'r Brifysgol Agored, a'i darlledu yn gynharach eleni.
Ar 4 Tachwedd, yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru, bu raddio dros 350 o fyfyrwyr o’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn ystod un o uchafbwyntiau blynyddol y brifysgol. Mae’r rhan fwyaf wedi astudio rhan amser, yn cyfuno astudio gyda gwaith, teulu neu ddyletswyddau gofalu