Traddododd Is-ganghellor y Brifysgol Agored yr Athro Tim Blackman ddarlith goffa flynyddol Raymond Williams eleni ddydd Llun 1 Chwefror.
Yn dwyn y teitl Raymond Williams ac ‘addysg ddefnyddiol’: beirniadaeth a dathliad, archwiliodd y sgwrs waith un o feddylwyr cymdeithasol amlycaf Cymru, gan ystyried beth byddai ei safbwynt ef wedi bod ar addysg oedolion heddiw. Trafododd yr Athro Blackman farn Williams ar hyfforddiant galwedigaethol ochr yn ochr â’r hyn a ddisgrifiwyd fel ‘addysg ryddfrydol gyffredin’.
Mae recordiad o'r ddarlith ar gael yn fan hyn.
Cafodd gwylwyr ar-lein eu cyfarch hefyd gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams AS, a gyflwynodd yr Athro Blackman cyn ei ddarlith.
"Roedd Raymond Williams yn nifer o bethau ond yn bennaf oll yn athro. Mae theori addysg yn rhedeg drwy ei gorff mawr ac amrywiol o waith." @TimJBlackman @OUCymru #DarlithRW2021 pic.twitter.com/aZIarAjFfP
— L&W Cymru (@LearnWorkCymru) February 1, 2021
Trefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth rhwng Y Brifysgol Agored yng Nghymru a Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Beth ydych chi'n ei wybod am ddatganoli a gwleidyddiaeth Cymru? Rhowch gynnig ar ein cwis i weld.
Mae un o gyrsiau mwyaf poblogaidd, rhad ac am ddim y Brifysgol Agored yn mynd i fod yn ddwyieithog, gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar siaradwyr Cymraeg i feistroli eu harian, yn eu dewis iaith, boed hynny yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Rhodri Davies
Rheolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891