Skip to content

Toggle service links

You are here

  1. Hafan
  2. Y Brifysgol Agored yn cynnal digwyddiad yn edrych i ddyfodol Addysg Uwch yng Nghymru

Y Brifysgol Agored yn cynnal digwyddiad yn edrych i ddyfodol Addysg Uwch yng Nghymru

Mark leach (WonkHe); Kirsty Williams AM and Rob Humphreys (Director of the OU in Wales) at the event

Ddydd Mercher 7 Rhagfyr, cynhaliodd y Brifysgol Agored ddigwyddiad cyhoeddus i drafod dyfodol addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr yng Nghymru. Cynhaliwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â WonkHE, gyda phrif anerchiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC.

Gyda newidiadau sylweddol i ddod i addysg uwch yng Nghymru yn dilyn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i'r 'Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllid Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr' (Adolygiad Diamond) ac ymgynghoriad sy'n mynd rhagddo, roedd hwn yn gyfle amserol i glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a lleisiau o bob rhan o'r sector addysg.

Mynychwyd y digwyddiad gan dros gant o westeion, ac aeth cyfres o siaradwyr i'r afael â chynaliadwyedd y sector Addysg Uwch; ehangu mynediad; darpariaeth cyfrwng Cymraeg a sut y gall Addysg Uwch ddiwallu anghenion Cymru orau. Ymysg y siaradwyr roedd: Rob Humphreys (Cyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru); Dr David Blaney (Prif Weithredwr, CCAUC); Syr Emyr Jones Parry (Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru); Yr Athro Hywel Thomas (Prifysgol Caerdydd); Margaret Phelan (UCU); Fflur Elin (Llywydd, UCM Cymru); Dr Ioan Matthews (Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol); Natasha Davies (Chwarae Teg); Cerys Furlong (Sefydliad Dysgu a Gwaith); Simon Pirotte (Colegau Cymru) a'r Athro Gareth Rees (Prifysgol Caerdydd).

Gallwch ddarllen blog byw a chrynodeb o'r digwyddiad ar wefan Wonkhe yn ogystal ag erthygl a ysgrifennwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu ei sylwadau yn y digwyddiad.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn dathlu'r garfan gyntaf o fyfyrwyr i dderbyn Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Roedd Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn falch iawn o gael dathlu cyraeddiadau'r garfan gyntaf o fyfyrwyr i dderbyn Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (Cymru), mewn digwyddiad i ddathlu yn Neuadd y Ddinas Caerdydd yn ddiweddar.

2 Awst 2018

Diffyg sgiliau yn costio mwy na £350 miliwn I sefydliadau Cymru

Mae Baromedr Busnes Y Brifysgol Agored, sy'n monitro tirwedd sgiliau'r DU, yn datgelu bod cyflogwyr yng Nhymru yn talu pris uchel er mwyn sicrhau bod gan eu sefydliadau'r sgiliau sydd eu hangen i barhau i fod yn gynhyrchiol. .

24 Gorffennaf 2018
Gweld pob un