Skip to content

Toggle service links

Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Introbiz yn cyflwyno seminar ar ddilysrwydd busnes

Yn gynharach yr haf hwn, cyflwynodd Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Introbiz seminar am ddim i fusnesau yn Ne Cymru ar 'Ddilysrwydd Busnes - aros ar yr ochr "iawn" i farn y cyhoedd a sut i osgoi sefyllfaoedd dadleuol.' 

Un o'r siaradwyr gwadd oedd Dr Björn Claes, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Fusnes Y Brifysgol Agored, a ddefnyddiodd ei arbenigedd a'i wybodaeth i gyflwyno ochr ddamcaniaethol dilysrwydd busnes. Ymunodd Cathy Bryant, Uwch Gyfreithiwr Cyswllt yng nghwmni Blake Morgan â Dr Claes, a thrafododd y defnydd ymarferol o rai o'r heriau sy'n wynebu busnesau ar hyn o bryd o ran dilysrwydd ac, yn benodol, "Google Tax".

Gwnaeth y seminar ryngweithiol iawn hon, a oedd yn gwneud i chi feddwl, helpu i ateb cwestiynau cymhleth yn ogystal â rhoi enghreifftiau o sut i lywio busnes drwy heriau mewn cyfnodau o adfyd a phan fydd dilysrwydd busnes yn cael ei amau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ddilysrwydd busnes ac aros ar yr ochr "iawn" i farn y cyhoedd, gallwch wylio'r seminar lawn yma neu rhowch gynnig ar ein gweithgaredd ar-lein am ddim

Mae Ysgol Fusnes Y Brifysgol Agored yn gweithio gyda sefydliadau i helpu pobl i ddysgu a datblygu er mwyn gwella perfformiad busnes. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Ysgol Busnes y Brifysgol Agored.

 

30/08/2017