You are here

  1. Hafan
  2. The Open University in Wales
  3. Y Brifysgol Agored yn 50

Y Brifysgol Agored yn 50

Crëwyd y Brifysgol Agored yn dilyn syniad radical: i wneud addysg yn agored i bawb, ac yn 2019 yr ydym yn dathlu ein hanner-canmlwyddiant. Mae’r ffilm uchod yn dangos pa mor bell yr ydym wedi dod, ac i le’r ydym yn mynd nesaf. 

Yr ydym eisiau clywed eich atgofion o astudio gyda’r brifysgol yn ystod yr amser hynny. 

  • Sut oeddwn arfer dysgu cyn i ni fynd ar-lein?
  • Oes gennych atgofion o’n darllediadau gyda’r hwyr, neu focsys o ddeunydd cwrs?
  • Beth ydych yn cofio am ein staff?
  • Pa wahaniaeth gwnaeth y cwrs i chi a’ch teulu?

Efallai oeddech arfer dysgu gyda ni, neu’n perthyn i rywun oedd yn gwneud. Os felly, cysylltwch!

Rhannu fy stori am y Brifysgol Agored

Os ydym wir yn hoffi’ch stori, efallai byddwn yn gofyn i’w defnyddio i annog mwy o fyfyrwyr dros Gymru i gofrestru gyda ni.

Ddim yn siŵr beth i'w ddweud? Cymerwch olwg ar straeon Charlotte a John am rywfaint o ysbrydoliaeth.

Os nad ydych wedi astudio gyda’r Brifysgol o’r blaen, nawr yw’r amser. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu pecynnau cymorth newydd ar gyfer israddedigion a myfyrwyr ôl radd newydd – mae llwyddiant yn fwy fforddiadwy fyth erbyn hyn.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws