You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Stori Claire

Stori Claire

A hithau yng nghanol achosion cyfreithiol hirfaith yn ymwneud â’i hysgariad, argyhoeddwyd Claire, sy’n fam sengl, i wneud gradd yn y Gyfraith gyda’r Brifysgol Agored a dilyn gyrfa i ymladd ei brwydr gyfreithiol hi ac eraill. 

Dyma sydd gan Claire i’w ddweud am ei thaith gyda’r Brifysgol Agored

Rwy’n fam sengl sy’n mynd trwy ysgariad a’r achos cyfreithiol yn y llys. Mae’r profiad wedi fy nysgu i beidio â gadael i unrhyw un fy sathru byth eto a bod angen i mi rymuso fy hun drwy gael gwybodaeth am y gyfraith. Dyna pam rwy’n gwneud gradd yn y gyfraith er mwyn i mi allu ymladd fy mrwydr fy hun ac eraill.

Wnes i ddim mynd i brifysgol ar ôl gadael yr ysgol. Pan oeddwn yn 18 oed doedd gen i mo’r hyder i adael cartref – bellach rwyf wedi cael profiad o fywyd ac rwy’n berson cryfach, yn gryfach na phan oeddwn yn 18 oed. Aeth llawer o fy ffrindiau i brifysgol a mynd yn eu blaenau i fod athrawon neu gael swyddi i raddedigion. Roeddwn yn teimlo fy mod wedi colli allan ond wnes i ddim difaru – mae bywyd yn eich tywys ar lwybr penodol ac roeddwn yn credu y byddai fy amser yn dod.

Ar ôl sefyll fy arholiadau TGAU es i weithio ym maes teithio a thwristiaeth am nifer o flynyddoedd. Yna ar ôl cyfarfod fy ngŵr cefais ddwy o enethod. Rhoddais y gorau i weithio ar ôl cael fy mhlentyn cyntaf ac yna es yn ôl pan oedd yn 13 mis oed i wneud gwaith gweinyddol a chyfrifon a gwaith derbynfa. Ar ôl cael fy ail ferch, dechreuais weithio’n rhan amser ym maes manwerthu ond wnaeth hynny ddim gweithio. Roedd llawer o waith jyglo, y plant oedd yn dod yn gyntaf, roedd gan fy ngŵr ei ddiddordebau ei hun a bu’n rhaid i mi anghofio am bopeth yr oedd arna ei eisiau am y tro.

Chwalodd y briodas bron i ddwy flynedd yn ôl ac mae’r achos cyfreithiol yn parhau. Mae gen i gynrychiolaeth gyfreithiol ond nid yw wedi bod yn hawdd. Ym Mawrth 2014 roeddwn wedi cyrraedd pwynt gwirioneddol isel a meddyliais na fyddwn byth yn gadael i unrhyw un fy sathru eto. Roeddwn eisiau grymuso fy hun â’r wybodaeth oedd ei hangen arna i i ymladd fy mrwydrau cyfreithiol fy hun. Roeddwn wedi gweld y bylchau yn y system gyfreithiol ac eisiau eu trwsio rhag i bobl eraill orfod mynd drwy’r un profiad â mi.

Roeddwn yn teimlo gwacter mawr ar ôl i’r berthynas ddod i ben ac nad oed gen i unrhyw beth i’w gynnig i unrhyw un. Roeddwn eisiau profi i bawb y ‘galla i wneud hyn, dydw i ddim yn ddwl, ac rwy’n ddeallus’.

Tra oeddwn yn briod breuddwydiais am fynd yn ôl i fyd addysg. Roedd yn rhagrybudd rhyfedd. Roeddwn eisiau gwneud gradd yn y gyfraith. Edrychais ar wefan Y Brifysgol Agored, a ffoniais nhw gan esbonio’n fyr beth oeddwn eisiau ei wneud a pham. Roedden nhw’n garedig a chefais wybod beth oedd fy opsiynau a pha lwybrau y gallwn eu cymryd. Roeddwn eisiau dechrau’n syth.

Dywedwyd wrthyf hefyd pe bawn i’n dechrau'r ‘mis nesaf’ - roedd hyn yn 2014 -, y buaswn yn cael cefnogaeth lawn gan Lywodraeth Cymru gan fy mod yn derbyn Cymhorthdal Incwm. Roedd y gefnogaeth honno’n allweddol. Rhaid i mi wneud cais o’r newydd ar gyfer pob modiwl ond rwyf bellach yn gyfarwydd â’r broses.

Felly cofrestrais a theimlais fel pe bai pwysau’r byd wedi ei godi oddi ar fy ysgwyddau. Bellach roeddwn yn gwybod i ba gyfeiriad yr oedd fy mywyd yn mynd ac nid oeddwn yn mynd i golli’r cyfle.

Roeddwn eisiau ennill y radd honno a phrofi fy mhwynt a pheidio â bod yn fam sy’n aros adra heb swydd na rhagolygon.

Pan gyrhaeddodd y pecynnau astudio roedd yn teimlo fel pe bai Sion Corn wedi galw. Roedd popeth yn hunan esboniadol. Roedd canllaw i’w ddarllen cyn i chi ddechrau’r gwerslyfrau ac roedd canllaw astudio yn rhoi arweiniad fesul pennod. Roedd fy nhiwtor yn gefnogol iawn ac rwy’n mynd i’r tiwtorialau’n rheolaidd. Roedd fy nghyd-fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd ac roedd ganddynt wahanol resymau dros fod yno, e.e. astudio ar gyfer gwaith, gwella’r cymwysterau oedd ganddynt. Rwy’n credu mai fi oedd yr unig un oedd yn ei wneud am resymau wedi eu gwreiddio’n ddwfn.

Hefyd trwy’r cyfryngau cymdeithasol roedd cyfle i ni sgwrsio am ddeunyddiau’r cwrs a hefyd roedd elfen o sgwrsio wrth ddysgu. Roedd rhywbeth yn digwydd drwy’r amser, roeddem yn trafod ac yn helpu ein gilydd ond wnes i ddim mynd i dafarndai na chlybiau.

Ac roedd cymorth ar gael bob amser gan Y Brifysgol Agored, does yr un cwestiwn yn rhy wirion neu ffôl i’w ofyn – a dydyn nhw ddim yn eich barnu.

Mae gen i drefn ar gyfer astudio. Ar ôl gwneud fy ngwaith a chael trefn ar y plant mi alla i neilltuo fy sylw i gyd i fy llyfrau – ond mae pethau’n dal i allu mynd yn drech na chi - does dim byd o’i le ar gael diwrnod rhydd bob hyn a hyn. Mae astudio gyda’r Brifysgol Agored yn cyd-fynd yn dda â fy ymrwymiadau eraill.

Rwy’n ceisio cwblhau fy ngradd erbyn 2019 ond ar ôl blwyddyn o astudio rwy’n teimlo fy mod yn berson gwahanol yn barod, nid yn unig am fy mod yn dysgu sgìl arall ond oherwydd y galla i weld y dyfodol a lle’r wyf eisiau bod. Fy nod yw ennill Tystysgrif Ymarfer a chontract hyfforddi ac yna cymhwyso ar gyfer y Bar.

Yn y gorffennol doedd gen i ddim gobaith na chred ynof fy hun ond mae’r Brifysgol Agored yn golygu fy mod yn meddwl yn bositif bellach – ac mae fy mam yn llawn edmygedd ohona 

Darllenwch stori Ann-Louise

Dewch i weld sut mae Ann-Louise wedi goresgyn amrywiaeth o heriau er mwyn cyflawni pethau mawr ardaith ddysgu gyda’r Brifysgol Agored