You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Stori Teresa

Stori Teresa

Doedd mynd i brifysgol ddim yn cael ei ystyried yn nheulu mawr Teresa ac er gwaetha’r ffaith bod ganddi ddawn ysgrifennu cafodd ei brandio fel rhywun ‘gwirion’. Cafodd ei hysbrydoli pan oedd yn gweithio fel gofalwraig yn gofalu am wraig ag anabledd difrifol a gafodd ddwy radd gyda’r Brifysgol Agored, gan deipio un llythyren ar y tro gyda’i boch. Bellach, ac er gwaetha’r ffaith ei bod yn ymdopi â’i hanabledd ei hun, mae'n cyflawni ei haddewid fel ‘awdur wrth reddf’.

Dyma sydd gan Teresa i’w ddweud am ei thaith gyda’r Brifysgol Agored

Roeddwn yn un o ddeg o blant ac fel y trydydd plentyn hynaf roedd yn chwarae rôl ‘mam’ gartref. Doedd addysg ddim yn brif ffocws ym mywyd fy rhieni, wnaethon nhw ddim ein gwthio ni ac allwn i ddim disgwyl nes byddai’n amser gadael yr ysgol.

Dw i ddim yn meddwl fy mod i wedi cael fy ysbrydoli yn yr ysgol a’r unig bynciau y gwnes i eu mwynhau oedd coginio a drama. Fi oedd ar y brig yn yr ysgol mewn arholiad Llenyddiaeth Saesneg ond roedd pawb yn dal i feddwl fy mod yn wirion ac roedd y stigma hwnnw’n glynu wrthyf i.

Gadewais yr ysgol a bûm yn gwneud nifer o swyddi. Bûm yn gweithio yn McDonald’s, yn gweini mewn gwesty ar Gynllun Hyfforddi Ieuenctid ac yn gwneud addurniadau Nadolig. Yna gadewais Gymru a bûm yn gweithio yn Butlins Minehead am ddau dymor cyn mynd i Newcastle i wneud cwrs celfyddydau perfformio.

Yna cafodd fy nghefnder, sy’n agos iawn ataf, ei daro a’i barlysu, felly deuthum yn ôl i ofalu amdano ef a’i blant. Roeddwn wedi gobeithio parhau â fy nghwrs yng Nghymru ond doedd hynny ddim yn bosibl. Yn y diwedd gadewais ac es i Lundain, a bûm yn gweithio fel nani i athrawon a geisiodd fy annog i roi cynnig ar addysg bellach, felly gwnes NVQ mewn gofal plant, a’i fwynhau’n fawr.

Yn ystod fy nghwrs celfyddydau perfformio ysgrifennais ddrama bum munud ar gyfer arholiad ac roeddwn wedi dechrau drama pan gafodd fy nghefnder ei ddamwain. Dywedodd fy nhiwtor fy mod yn awdur wrth reddf. Roeddwn mewn perthynas broblemus, ni allwn gael plant ac roedd fy mywyd yn un cawdel o emosiynau. Pan oeddwn yn fy 30au, dywedodd fy nghynghorwyr wrthyf am ysgrifennu i ryddhau fy emosiynau.

Cefais swydd fel gofalwraig 24 awr gyda gwraig â syndrom cloi’r corff (LIS). Dim ond ei boch y gallai ei symud ond roedd wedi gwneud dwy radd, trwy ddefnyddio’i boch i deipio’r naill lythyren ar ôl yn llall. Roedd wedi gwneud y cyrsiau gradd gyda’r Brifysgol Agored a chefais fy ysbrydoli i gofrestru â chwrs Y Brifysgol Agored Y180 Gwneud Synnwyr o’r Celfyddydau. Yna penderfynais y byddwn yn rhoi cynnig ar wneud gradd a chofrestrais ar y cwrs Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Ar y pryd roeddwn yn gweithio gyda phobl ag anafiadau i’r cefn ac yna, yn Awst 2013 cefais fy nghofrestru’n anabl fy hun.

Roedd gen i Osteoarthritis a Firbomyalgia a oedd yn effeithio’n arw ar fy ngallu i symud, ac allwn i ddim gweithio. Doeddwn i ddim eisiau rhoi’r gorau iddi, a phan siaradais â’r Brifysgol Agored am yr heriau yr oeddwn yn eu hwynebu o ran fy iechyd, roedden nhw’n wych. Daeth rhywun i fy asesu a chawsom sgwrs, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli ei bod yn cofnodi fy anghenion wrth i ni siarad. Argymhellodd bethau oedd eu hangen arna i, fel cymorth i ddal llyfr, rhywbeth nad oeddwn wedi meddwl amdano. Roeddwn yn teimlo y gallwn droi at Y Brifysgol Agored unrhyw bryd i ofyn unrhyw beth.

Bellach mae gen i feddalwedd adnabod llais Dragon ac rwy’n gallu hawlio am bapur ac inc ychwanegol gan fod yn rhaid i mi argraffu mwy o ddeunydd na phobl eraill. Er fy mod ar gyflog isel fel gofalwraig doeddwn i ddim yn gymwys i gael arian, pan fu’n rhaid i mi roi’r gorau i weithio talwyd cost lawn fy nghwrs. 

Mae’r deunyddiau dysgu’n wych ac maen nhw’n cael eu hanfon ataf ar ddisg os nad ydw i’n gallu darllen llyfr. Roedd fy nhiwtor cyntaf yn garedig ac yn rhoi llawer o anogaeth i mi. Yn fy mlwyddyn gyntaf roeddwn yn cael trafferth cael 70 y cant o farciau, eleni fy marc isaf yw 77 y cant am fy ysgrifennu creadigol ac rwyf newydd gael 94 y cant.

Rwy’n ceisio mynd i gynifer o diwtorialau â phosibl, os yw fy salwch yn caniatáu, ac os yw’n bosibl rwy’n gallu teithio gyda gofalwr. Er mai dysgu o bell yr ydw i, nid oes raid i chi fod yn unig. Eleni rwyf wedi bod ar dudalennau Facebook Y Brifysgol Agored ac rwy’n rheoli prosiect TMA (Aseiniadau a Gaiff eu Marcio gan Diwtoriaid).

Rwyf wedi gwirfoddoli i fod yn gydlynydd ond doedd neb eisiau ei wneud felly rwy’n Rheolwr Prosiect hefyd. Gallwch wneud ffrindiau â myfyrwyr eraill, a gan nad oedd gen i unrhyw gludiant, rhoddodd y tiwtor neges ar fforwm Y Brifysgol Agored a gwelodd rhywun sy’n byw wrth fy ymyl y neges ac mae’n mynd â fi i’r tiwtorialau.

Mae astudio’n gallu bod yn waith caled ac ambell ddiwrnod allwch chi ddim codi o’r gwely neu ganolbwyntio oherwydd y boen, ond pe buaswn i mewn prifysgol arferol buaswn dan anfantais.

Buaswn yn argymell Y Brifysgol Agored 100 y cant heb betruso i eraill sydd yn yr un cwch â mi. 

Does gen i ddim byd negyddol i’w ddweud am Y Brifysgol Agored, nid yn unig buon nhw’n gymorth i fy atal rhag syrthio i bydew hunandosturi ond maen nhw wedi fy ysbrydoli i ysgrifennu a meddwl yn bositif.

Pwy a ŵyr, gyda gradd efallai y gallwn gael gyrfa arall yn ddiweddarach yn fy mywyd?

Roeddwn i’n meddwl bod yn rhaid i chi fod ag acen fonheddig i wneud rhywbeth fel cael gradd, dyna a ddywedodd fy rhieni wrthyf erioed. Ond rwy’n cyflawni cymaint. Mewn tiwtorial tynnodd fy nhiwtor fi i’r naill ochr a dweud wrthyf ‘Mi alla i dy weld yn y seremoni raddio, ac mi fydda i yno i dy wylio’. 

Darllenwch stori Claire

Dewch i weld sut mae Claire wedi goresgyn amrywiaeth o heriau er mwyn cyflawni pethau mawr ardaith ddysgu gyda’r Brifysgol Agored.