You are here

  1. Hafan
  2. Ymchwil

Ymchwil

Yn 2022, fe wnaethom gychwyn ar genhadaeth ymchwil newydd i fynd i’r afael â thair her gymdeithasol hollbwysig:

  • Cynaliadwyedd
  • Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau
  • Byw yn Dda

Yn y Brifysgol Agored, gelwir y rhain yn Heriau Cymdeithasol Agored (OSCs).

Gallwch ddarganfod mwy am ymchwil yn Y Brifysgol Agored yma.

Ymchwil, arloesi ac ymgysylltu yng Nghymru

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cynhyrchu Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru. Mae'r strategaeth, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), yn amlygu sut y byddwn yn datblygu ein gwaith ymchwil, arloesi ac ymgysylltu dros y tair blynedd nesaf.

Mae’r strategaeth yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Gan adeiladu ar waith partneriaeth a gynlluniwyd ar y cyd ar draws sectorau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, byddwn yn canolbwyntio ar:

  • ddatblygu sgiliau, gan weithio'n agos gyda cholegau addysg bellach a chyflogwyr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
  • datblygu a rhannu ymchwil a gwybodaeth y Brifysgol Agored gyda phobl Cymru, gan gyfrannu at effaith gymdeithasol ehangach drwy ein cenhadaeth ddinesig
  • gwella ein cynnig o ddysgu dwyieithog, rhad ac am ddim, ar-lein a chefnogi mynediad i hyn trwy ein rhaglen Hyrwyddwyr y Brifysgol Agored.

Cliciwch yma i ddarllen ein Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru

Effaith ein hymchwil yng Nghymru

 Fferm wynt
Dyn yn helpu dyn oedrannus gydag iPad
 Pobl yn garddio mewn cymuned

 

 

 

 

Ymchwil arall

Mae’r OSC yn disodli’r meysydd ymchwil strategol (SRAs) a oedd yn sail i’n cynllun ymchwil blaenorol. Fodd bynnag, bydd ymchwil thematig, traws-sefydliadol yn parhau ar draws rhai o’r SRAs hyn, sef:

  • Dinasyddiaeth a llywodraethu
  • Iechyd a lles
  • Datblygiad Rhyngwladol
  • Archwilio gofod
  • Dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg

Os hoffech drafod gweithgareddau ymchwil OU neu weithio gydag ein hacademyddion, e-bostiwch partneriaethau-cymru@open.ac.uk