You are here

  1. Home
  2. Vacancies
  3. Gwybodaeth a Chwestiynau Cyffredin am Recriwtio Darlithwyr Cyswllt

Gwybodaeth a Chwestiynau Cyffredin am Recriwtio Darlithwyr Cyswllt

Dylai pawb sy'n gwneud cais am rôl Darlithydd Cyswllt neu sy'n derbyn rôl o'r fath nodi'r canlynol:

Negodwyd a chytunwyd ar delerau ac amodau cyflogaeth newydd a gwell i Ddarlithwyr Cyswllt gyda'r Undeb Llafur yn ystod hydref 2018. Cadarnhaodd Darlithwyr Cyswllt a oedd yn aelodau o'r undeb eu bod yn derbyn y Telerau Newydd hyn pan gynhaliwyd pleidlais ym mis Ionawr 2019. Symudodd pob Darlithydd Cyswllt sydd wedi'i gyflogi i'r Telerau Newydd ym mis Awst 2022.

Mae'r Darlithwyr Cyswllt bellach wedi'u contractio'n gyflogeion parhaus yn lle cael eu penodi ar gontractau cyfnod penodol fel yr oeddent yn y gorffennol. Mae'r newid hwn wedi rhoi sicrwydd swydd yn ogystal â sicrwydd ariannol i Ddarlithwyr Cyswllt, ac wedi cynnwys amser ychwanegol â thal ar gyfer mwy o wyliau blynyddol a mwy o amser ar gyfer gweithgarwch datblygu staff a gweithgarwch academaidd.

Gall cyflogeion presennol gael rhagor o wybodaeth mwy am y  Contract Newydd i Ddarlithwyr Cyswllt (sharepoint.com)

.


Cyrsiau allanol a datblygiadau pellach

Gall Darlithwyr Cyswllt wneud cais i'r Gronfa Ddatblygu a all roi  cymorth ariannol ar gyfer mynychu digwyddiadau megis cynadleddau allanol.

Polisïau sy'n Ystyriol o Deuluoedd

Fel rhan o bolisïau'r Brifysgol sy'n ystyriol o deuluoedd, bydd hawl gennych i absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth ac absenoldeb rhiant a rennir.

Pensiynau

Mae darlithwyr cyswllt yn gymwys i ymuno â Chynllun Blwydd-daliadau'r Prifysgolion. Darperir manylion llawn ar ôl i chi gael eich penodi.

Cyflog blynyddol

Fel Darlithydd Cyswllt newydd eich penodi, byddwch yn cwblhau cyfnod prawf o ddwy flynedd.

Bydd eich cyflog blynyddol yn seiliedig ar gyfanswm eich gwerth CALl (cyfwerth ag amser llawn) wedi'i luosi â gwerth eich pwynt ar y golofn gyflog. E.e. defnyddio graddfeydd cyflog ar gyfer Hydref 2023:

  • Byddai Darlithydd Cyswllt ar bwynt 34 ar y golofn gyflog (£41732) sy'n gweithio ar sail 0.25CALl yn cael cyflog blynyddol o £10,433 (£41732 x 0.25).
  • Telir y cyflog mewn 12 rhandal cyfartal, felly yn yr enghraifft hon, £869.42 fyddai cyflog misol y Darlithydd Cyswllt.
  • Mae'r cyflog yn cynnwys tâl pro-rata ar gyfer gweithgarwch datblygu staff, gweithgarwch academaidd a gwyliau blynyddol.

Caiff Darlithwyr Cyswllt newydd eu penodi i bwynt 30 ar y raddfa gyflog ar gyfer Darlithwyr Cyswllt, gan symud yn awtomatig i fyny'r raddfa honno ar 1 Hydref bob blwyddyn tan iddynt gyrraedd pwynt 36, ar yr amod eu bod wedi'u cyflogi ar 1 Ebrill y flwyddyn honno neu cyn hynny.

Caiff eich llwyth gwaith blynyddol ei fynegi ar ffurf gwerth Cyfwerth ag Amser Llawn (CALl). Mae CALI gwerth 1.0 yn cyfateb i wythnos waith 37 awr. Bydd eich patrwm gwaith dros y flwyddyn yn amrywio er mwyn caniatáu ar gyfer gweithgarwch cymorth i fyfyrwyr, tiwtora ac asesu. Os bydd eich llwyth gwaith yn syrthio islaw lefel cyfanswm eich gwerth CALl, bydd y Brifysgol yn dod o hyd i waith arall i chi er mwyn cynnal lefel eich llwyth gwaith CALl. Mae eich gwerth CALl yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • Cyflwyno modiwl yn llawn
  • 5 diwrnod (pro-rata) a neilltuir ar gyfer gweithgarwch datblygu staff
  • 6 diwrnod (pro-rata) a neilltuir ar gyfer gweithgarwch academaidd
  • 27 diwrnod (pro-rata) o wyliau (gwyliau blynyddol)
  • Nifer amrywiol o ddiwrnodau (pro-rata) ar gyfer gwyliau banc yn dibynnu ar y wlad yn y DU rydych yn byw ynddi
  • 1 diwrnod (i bob Darlithydd Cyswllt) a neilltuir ar gyfer gweithgarwch datblygu staff

Uchafswm CALl ar gyfer Darlithwyr Cyswllt

Mae gan y Brifysgol uchafswm CALl ar gyfer Darlithwyr Cyswllt (gan gynnwys cydweithwyr sydd â rôl Darlithydd Cyswllt yn ychwanegol at waith arall Y Brifysgol Agored), sef 1.3CALl. Mae hyn yn cyfateb i wythnos waith 48 awr fel y nodir yn Rheoliadau Oriau Gwaith 1998. Mae hyn yn galluogi'r Brifysgol i atal llwythi gwaith gormodol er mwyn sicrhau na chaiff ansawdd profiad ein myfyrwyr nac iechyd, llesiant a diogelwch ein cyflogeion eu cyfaddawdu.

C: A oes gennyf y cymwysterau addas i wneud cais?
A: Mae angen i chi ddangos ar y ffurflen gais sut rydych yn bodloni gofynion y fanyleb person gyffredinol a gofynion manyleb person y modiwl.

C:Rwy'n byw y tu allan i'r DU a Gweriniaeth Iwerddon. A allaf wneud cais i diwtora gyda'r Brifysgol Agored?
A: Caniateir ceisiadau gan ymgeiswyr tramor, ar yr amod bod yr ymgeisydd yn bwriadu symud i'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i ymgymryd â'r swydd. Caiff unrhyw gynnig cyflogaeth ei wneud yn amodol ar brawf o breswyliaeth yn y DU/Gweriniaeth Iwerddon, ynghyd â gwiriadau cyn cyflogaeth, gan gynnwys Hawl i Weithio (RTW). Os byddwch yn gwneud cais o'r tu allan i'r DU/Gweriniaeth Iwerddon, nodwch eich bwriadau ar y ffurflen gais. Fel arall, mae'n bosibl na chewch eich ystyried.

C: Mae swydd wag ar gael mewn un rhan o'r wlad ond rwy'n byw mewn rhan arall. A allaf wneud cais amdani?
A: Gallwch wneud cais am unrhyw swydd a hysbysebir ar ein gwefan recriwtio ar yr amod eich bod yn byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon.  Ar gyfer modiwlau a addysgir yn gyfan gwbl ar-lein, caiff pob cais a geir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ei ystyried. Fodd bynnag, mae'n bosibl y caiff y broses ddethol ar gyfer modiwlau sy'n cynnwys unrhyw addysgu wyneb yn wyneb ei diffinio yn ôl pa mor agos at y swydd wag rydych yn byw.

C: Sut y byddaf yn gwybod a yw swydd wag ar gael o hyd?
A: Y dyddiad cau ar gyfer swydd wag yw'r dyddiad terfynol y byddwn yn derbyn ceisiadau. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw geisiadau hwyr a geir ar ôl hanner dydd ar y dyddiad cau.

C: A allaf anfon CV yn lle cwblhau ffurflen?
A: Na allwch, ni chaiff CVs eu hystyried yn y broses ddethol. Dim ond ffurflenni cais Darlithwyr Cyswllt wedi'u cwblhau y byddwn yn eu derbyn.

C: Rwy'n cael trafferth cyflwyno fy ffurflen i'r cyfeiriad e-bost.
A: E-bostiwch ni ar AL-applications@open.ac.uk os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich ffurflen.

C: Ni chefais gydnabyddiaeth i fy neges e-bost. A ddylwn i boeni?
A: Os na fyddwch yn cael cydnabyddiaeth awtomataidd yn fuan ar ôl anfon e-bost atom, mae'n golygu nad ydym wedi i gael. Edrychwch am negeseuon gwallau yn eich ffolder Sbam cyn rhoi cynnig arall arni. Os ydych yn Ddarlithydd Cyswllt ar hyn o bryd, defnyddiwch eich cyfrif e-bost prifysgol. Os na fyddwch yn cael cydnabyddiaeth o hyd, cysylltwch â ni yn AL-applications@open.ac.uk

C:Gwnes gais am swydd wag fis diwethaf. Mae angen i mi newid fy nghymwysterau/enw/geirda erbyn hyn. Sut y gallaf wneud hyn?
A: Dylech ddiwygio eich ffurflen a'i hailanfon i AL-applications@open.ac.uk gyda neges yn egluro.

C: Rwyf am siarad â rhywun i gael adborth ar fy nghais. Gyda phwy y dylwn gysylltu?
A: Dylech anfon eich cais at y tîm Gwasanaethau Darlithwyr Cyswllt priodol. Mae'r manylion cyswllt ar gael yma.

Q: Nid wyf wedi clywed dim ers i mi wneud cais.
A: Nid ydym yn cysylltu ag ymgeiswyr aflwyddiannus. Os na fyddwch wedi clywed dim erbyn mis cyn dyddiad dechrau'r modiwl ac rydych yn dymuno cael adborth ar eich cais, gallwch anfon e-bost at y tîm perthnasol. Mae'r manylion cyswllt ar gael yma.

C: Sut wyf yn gwybod ai aelod o staff mewnol neu allanol wyf i?
A: Rydych yn ymgeisydd allanol os nad oes gennych gontract cyflogaeth Darlithiwr Cyswllt â'r Brifysgol Agored neu os mai dim ond gwaith byrdymor rydych yn ei wneud ar gyfer Y Brifysgol Agored (h.y. lle nad ydych yn gwneud unrhyw waith arall i'r Brifysgol) megis gwaith ysgol breswyl, marcio sgriptiau, dyletswyddau arholwr allanol neu waith fel contractwr hunangyflogedig. Caiff Tiwtoriaid Cydweithredol a Myfyrwyr Ymchwil eu hystyried yn ymgeiswyr allanol hefyd at y dibenion hyn.

C Beth yw maes arbenigedd?
A: 
Yn y Proffil Sgiliau, gellir diffinio'ch Maes Arbenigedd fel y wybodaeth bynciol rydych wedi'i chaffael drwy dderbyn hyfforddiant, drwy astudio neu drwy ymarfer. Bydd y broses o Archwilio Sgiliau yn rhoi'r cyfle i chi ganolbwyntio, a'r cyfle i ddatblygu sgwrs gyda'ch rheolwr llinell i gael dealltwriaeth well o'ch cefndir academaidd a/neu broffesiynol, ar wahân i'r modiwlau penodol y byddwch yn eu tiwtora. Dylai'r 'Maes Arbenigedd' fod yn air neu'n ymadrodd ar ffurf pennawd, a dylai ddilyn y canllawiau gan yr ysgol berthnasol.

C: Beth yw cod modiwl?
A: Mae codau modiwlau'r Brifysgol Agored yn cynnwys llythrennau a rhifau. Mae'r llythyren yn nodi'r gyfadran neu'r ysgol y mae'r modiwl yn perthyn iddi, ac mae'r rhifau yn nodi'r modiwl penodol. Mae'r rhif cyntaf yng nghod y modiwl yn dangos lefel benodol y modiwl. Mae rhai o'r modiwlau yn perthyn i fwy nag un maes academaidd ac mae ganddynt fwy nag un llythyren yn y cod modiwl (e.e., DB123, byddwch chi a'ch arian yn eiddo i Gyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol ac i Ysgol Fusnes Y Brifysgol Agored).

C: Rwy'n aelod o staff mewnol, a allaf wneud cais am swydd Darlithydd Cyswllt i gynyddu fy CALl?
A:
Os ydych eisoes yn Ddarlithydd Cyswllt (AL), rydym yn argymell eich bod y cwblhau/diweddaru eich Proffil Sgiliau os hoffech gynyddu eich CALl.

C: Sut gallaf ddod o hyd i'm Proffil Sgiliau a'i gwblhau?
A:
Mae canllawiau a gwybodaeth am sut i gwblhau'r Proffil Sgiliau ar gael ar Proffil Sgiliau

Mae'n un o ofynion y rôl bod gennych fynediad at gyfrifiadur personol, a disgwylir i chi feddu ar sgiliau cyfrifiadur personol sylfaenol, llythrennedd digidol syml a'r gallu i ddefnyddio meddalwedd swyddfa safonol, e.e. prosesu geiriau ac e-bost. Fodd bynnag, ar gyfer modiwlau sy'n defnyddio meddalwedd arbenigol caiff y feddalwedd berthnasol ei darparu a bydd hyfforddiant ar-lein ar gael. Byddwch yn ymwybodol mai dim ond ar lwyfan Microsoft Windows y bydd rhai o'r pecynnau meddalwedd hyn yn gweithio. Mae angen mynediad i'r rhyngrwyd ar gyfer pob modiwl a addysgir gan ddarlithwyr cyswllt gan y bydd angen i chi gyrchu gwybodaeth o wefan yn rheolaidd, er enghraifft gwybodaeth am eich grŵp myfyrwyr.

Bydd yn ofynnol i chi ddefnyddio eich cyfrif e-bost Y Brifysgol Agored at ddibenion gweinyddol ac i gysylltu â'ch myfyrwyr a'ch cydweithwyr cyfadran ac ymateb iddynt. Prif ddull Y Brifysgol Agored o gyfathrebu gwybodaeth weinyddol a pheth gwybodaeth am fodiwlau yw drwy e-bost.

Fel un o Ddarlithwyr Cyswllt Y Brifysgol Agored, mae gennych dri opsiwn ar gyfer darpariaeth cyfarpar TGCh:

  1. Gwneud cais am liniadur Windows (wedi'i Reoli) Y Brifysgol Agored
  2. Prynu gliniadur personol drwy ddefnyddio Lwfans TGCh Y Brifysgol Agored
  3. Defnyddio'ch dyfais bersonol bresennol (bydd rhaid gosod meddalwedd diogeledd Y Brifysgol Agored arno. Mobile Device Management (MDM) sy'n cael ei ddefnyddio fel meddalwedd diogeledd gan Y Brifysgol Agored).

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau ynglŷn â'r broses recriwtio, neu mewn perthynas â'ch cais, cysylltwch â: AL-Applications@open.ac.uk.

Adborth ar y broses recriwtio

Dylid anfon unrhyw sylwadau neu bryderon am unrhyw gam o'r broses recriwtio at Resourcing-Hub@open.ac.uk