You are here

  1. Home
  2. Cyrsiau Byr

Cyrsiau Byr

Mae cyrsiau byr yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau proffesiynol newydd mewn cyfnod byr o amser.

Mae ein cyrsiau byr yn rhoi cyfleoedd dysgu cryno, hawdd eu prosesu, i fusnesau a'u dysgwyr, heb orfod ymrwymo i gymhwyster cyfan.

  • Mae cyrsiau o feysydd pwnc a disgyblaethau gwahanol ar gael, sy'n lleihau amhariad ar y busnes
  • Fel arfer, cymerir 25-100 awr i'w cwblhau, gan leihau amhariad
  • Mae'n cefnogi'r wybodaeth o fewn eich busnes i yrru effeithiolrwydd ar draws y bylchau sgiliau o ran hyfforddi, ymwybyddiaeth fasnachol, rheoli newid a nifer o feysydd eraill

Ar gyfer pwy?

Unrhyw un yn eich sefydliad sydd eisiau gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau technegol mewn maes penodol. Efallai y bydd angen peth wybodaeth broffesiynol flaenorol.


Beth fydd fy nhîm yn ei ddysgu?

A chithau'n gyflogwr, mae cyrsiau byr yn ffordd wych o feithrin sgiliau newydd o fewn eich tîm. Mae dros 40 o gyrsiau ar gael ym maes busnes, iaith a gwyddoniaeth.


Beth yw'r ymrwymiad?

Bydd angen astudio am oddeutu 50 awr i gwblhau'r rhan fwyaf o gyrsiau byr.

Gallwch ddewis o amrywiaeth o gyrsiau byr, gan gynnwys sgiliau trosglwyddadwy proffesiynol y mae galw amdanynt, megis rheoli prosiect a chyllid.


Edrychwch ar ein hamrywiaeth o gyrsiau byr

Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Corfforaethol 

Pa un ai eich bod yn ceisio dringo ysgol eich sefydliadu neu redeg eich cwmni eich hun, mae ein cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn ymdrin ag amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys arwain, rheoli a chyrsiau pwnc arbenigol all eich helpu chi i ddatblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r rhinweddau sydd eu hangen.

Cyrsiau Byr Eraill

Gallwch ddewis o amrywiaeth o bynciau a all eich helpu chi i adeiladu set sgiliau newydd, rhoi cynnig ar hobi newydd, neu wella'ch gallu i gyfathrebu.

English | Cymraeg

Find out how we can help your organisation

Please contact us to speak to one of our business team advisors.

Contact us

Not on our mailing list?

Sign up to receive regular emails that are full of advice and resources to support staff development in your organisation.

Sign up to our emails