You are here

  1. Home
  2. Israddedig | Ôl-raddedig

Israddedig | Ôl-raddedig

Professional male learning on a computer

Cymwysterau israddedig ac ôl-raddedig

Mae ein 230 o gymwysterau israddedig ac ôl-raddedig yn meithrin arbenigedd manwl, y mae galw amdano, er mwyn helpu sefydliadau i gamu i'r dyfodol yn hyderus.

Efallai y byddai eich busnes chi'n elwa ar chwistrelliad o syniadau a ffordd o feddwl newydd, ac os felly, beth am ymuno â'r 2,800 o gyflogwyr sy'n gweithio gyda'r Brifysgol Agored i ddatblygu sgiliau eu staff a chryfhau eu busnes.

  • Lluniwch raglen israddedig ac ôl-raddedig hyblyg ac unigryw sy'n cyd-fynd ag anghenion eich busnes
  • Bydd eich buddsoddiad yn amlygu ei hun mewn dim: mae cyflogeion yn defnyddio'u dysg o fewn eu gwaith yn syth
  • Ennyn mwy o unigolion i gymryd rhan drwy ddarparu cymwysterau ar-lein yn ôl dyluniad cynhwysol
  • Cael gwared ar yr anhawster a'r amser teithio sy'n gysylltiedig â bod yn bresennol yn y brifysgol

Astudiaeth israddedig

Mae astudiaeth israddedig yn adeiladu ar yr hyn a ddysgodd eich cyflogeion yn yr ysgol neu goleg..

Gradd Anrhydedd yw'r cymhwyster israddedig mwyaf poblogaidd. Fodd bynnag, mae pob cyfnod (blwyddyn) o fewn gradd yn gymhwyster yn ei hun.

Golyga hyn y gellir astudio ein rhaglenni israddedig fel cymwysterau annibynnol, neu eu defnyddio fel pont i fynd ymlaen o un i'r llall.

Mathau o astudiaeth israddedig
Cymhwyster Modiwlau annibynnol Tystysgrif Addysg Uwch Diploma Addysg Uwch Gradd Anrhydedd
Yn dda ar gyfer datblygu Gwybodaeth benodol Sylfaen gadarn Mewnwelediadau manwl Arbenigedd cynhwysfawr
Cyfnod / Lefel Amherthnasol

Gellir dewis o ddetholiad ar unrhyw gyfnod o'r radd
Cyfnod 1

Lefel 4 - Cyfwerth â blwyddyn gyntaf gradd israddedig llawn amser
Cyfnod 2

Lefel 5 - Cyfwerth â dwy flynedd gyntaf gradd israddedig llawn amser
Cyfnod 3

Lefel 6 - Gradd israddedig gyflawn
Cyfanswm credydau 15 i 60 credyd 120 credyd 240 credyd 360 credyd
Hyd nodweddiadol 6 mis i flwyddyn rhan amser 2 flynedd rhan amser 4 blynedd rhan amser 6 mlynedd rhan amser
Gofynion mynediad ar gyfer astudiaeth israddedig

Nid oes gan y rhan fwyaf o'n rhaglenni israddedig ofynion mynediad ffurfiol er mwyn datblygu sgiliau eich staff, waeth pa fath o addysg maen nhw wedi'i chael.

  • Nid oes gan fy nghyflogai unrhyw brofiad academaidd diweddar/perthnasol: Efallai y byddwn yn argymell iddynt gwblhau Modiwlau Mynediad er mwyn eu helpu nhw i fagu hyder a sgiliau astudio cyn ymrwymo i gwrs
  • Mae gan fy nghyflogai brofiad academaidd diweddar/perthnasol: I gydnabod eu dysg academaidd flaenorol, efallai y gallant drosglwyddo credydau a dechrau eu hastudiaeth israddedig ar lefel uwch

Astudiaeth ôl-raddedig

Os oes gan eich cyflogai radd israddedig, efallai mai astudiaeth ôl-raddedig yw'r cam nesaf.

Mae cymwysterau ôl-raddedig yn galluogi dysgwyr i gyfoethogi eu dealltwriaeth o bynciau maen nhw eisoes wedi'u hastudio, neu astudio arbenigedd newydd yn eu maes.

Fel cyflogwr - sy'n datblygu eich doniau gyda'r Brifysgol Agored - byddwch yn elwa o ddefnyddio ffordd o feddwl arloesol, sy'n seiliedig ar ymchwil, o fewn heriau eich busnes.

Y mathau o astudiaeth ôl-raddedig
Cymhwyster Modiwlau annibynnol Tystysgrif Ôl-raddedig Diploma Ôl-raddedig Gradd Meistr
Yn ddelfrydol ar gyfer Gwybodaeth benodol Datblygu gyrfa Mewnwelediad proffesiynol mwy manwl Arbenigedd proffesiynol manwl
Lefel Amherthnasol Lefel 7 Lefel 7 Lefel 7
Cyfanswm credydau 15 i 120 credyd 60 credyd 120 credyd 180 credyd
Hyd nodweddiadol 3 mis i flwyddyn rhan amser 1 flwyddyn rhan amser 2 flynedd rhan amser 3 blynedd rhan amser
Gofynion mynediad ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig

Mae graddau ôl-raddedig yn adeiladu ar astudiaeth israddedig, felly mae'n ofynnol bod ymgeiswyr wedi cwblhau gradd Anrhydedd er mwyn ymgeisio. Bydd hyn yn sicrhau eu bod nhw'n manteisio i'r eithaf ar eu modiwlau, a'u bod nhw'n hyderus wrth fynd ati i ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd yn y gweithle.

Cymwysterau agored

Mae ein Cymwysterau agored (BA/BSc Agored ac MA/MS Agored) yn gyrsiau hyblyg a ellir eu haddasu i fodloni anghenion penodol eich sector, eich sefydliad neu ddysgwr.

Mae'r rhaglenni hyn yn cynnwys amrywiaeth heb ei hail o fodiwlau mewn disgyblaethau gwahanol, a gellir eu haddasu wrth i'ch anghenion newid.

Er enghraifft, sicrhewch fod eich cyflogai'n dechrau arni gyda modiwlau sy'n benodol i'r sector - megis rhaglennu Java neu iechyd a gofal cymdeithasol - yna gall fynd ymlaen at fodiwlau strategaeth a rheoli wrth ddatblygu o fewn ei yrfa.

  • Yn gallu addasu yn ôl anghenion datblygu eich busnes a staff
  • Yn hyblyg er mwyn bodloni anghenion y busnes a'r dysgwr, a all newid
  • Mae dysgu ar-lein yn cyd-fynd ag ymrwymiadau proffesiynol a phersonol

Darllenwch fwy am ein cymwysterau Agored

Modiwlau Mynediad

Mae Modiwlau Mynediad yn eich caniatáu chi a'ch cyflogai i roi cynnig ar ddysgu o bell ac astudio pellach.

Maen nhw'n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd eisiau gwella eu hyder a'u sgiliau astudio cyn ymrwymo i radd. Maen nhw'n ddelfrydol hefyd i bobl nad ydynt wedi astudio'n ffurfiol ers peth amser.

Gallant fod am ddim i bobl sy'n ffitio meini prawf penodol. Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.

Modiwlau Mynediad:

  • Yn dechrau ym mis Chwefror a Hydref
  • Yn rhedeg am 30 wythnos
  • Yn gofyn am 9 awr o astudio bob wythnos

Maen nhw'n cyflwyno dysgwyr i'n dulliau addysgu, ac yn eu helpu nhw i ddatblygu'r ddisgyblaeth i ddysgu ar eu liwt eu hunain. Efallai mai dyma pam bod myfyrwyr sy'n cwblhau modiwl mynediad yn fwy tebygol o lwyddo yn ystod Cyfnod 1...

Gallwch ddewis o blith:

  • Y celfyddydau ac ieithoedd - astudio llenyddiaeth, hanes, celf a Saesneg
  • Pobl, gwaith a chymdeithas - edrych ar fusnes, seicoleg, y gyfraith a mwy
  • Gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg - datblygu gwybodaeth mewn peirianneg, dylunio, TG, cyfrifiadura a mwy

Darllenwch fwy am Fodiwlau Mynediad

Creu achos ar gyfer buddsoddi

Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi cyflogai gyda rhaglen israddedig neu ôl-raddedig, efallai y byddwch angen ysgrifennu achos busnes i sicrhau cyllideb a chefnogaeth. Helpu i gyfleu'r buddion i'ch busnes:

Sut fath o astudio sy'n cyd-fynd â'm busnes?

Rhowch hwb i'ch busnes gydag opsiynau astudio sy'n cyd-fynd â'ch anghenion:

Os ydych angen unrhyw gymorth o ran deall sut allwn helpu'ch sefydliad, siaradwch â'n tîm busnes dros y ffôn neu drwy e-bost.

Cysylltwch â ni

English | Cymraeg

Find out how we can help your organisation

Please contact us to speak to one of our business team advisors.

Contact us

Not on our mailing list?

Sign up to receive regular emails that are full of advice and resources to support staff development in your organisation.

Sign up to our emails