Mae llwyddiant yn fforddiadwy
Gallech fod yn gymwys am fenthyciad o hyd at £18,950 gan Cyllid Myfyrwyr Cymru i helpu gyda’ch astudiaethau ôl-raddedig. Mae hyn yn golygu mwy o gymorth wrth i chi weithio’n galed tuag at eich dyfodol newydd.
Gofynnwch am brosbectws
Cymorth ariannol i fyfyrwyr ôl-raddedig yng Nghymru
Nid fu amser gwell erioed i ymuno â ni fel myfyriwr ôl-raddedig. Gallech fod yn gymwys am fenthyciad o hyd at £18,950 gan Cyllid Myfyrwyr Cymru os ydych chi’n astudio gradd feistr.
Mae'r cymorth yn cynnwys benthyciad di-brawf-modd gwerth hyd at £18,950 dros gyfnod eich cymhwyster y bydd angen ei dalu'n ôl. Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol ar gyfer cymorth ariannol. Rhaid i chi fod yn astudio gradd meistr y gellir ei chwblhau mewn dim mwy na thair blynedd, er gellir caniatáu seibiannau astudio. Bydd y benthyciad ar gael i fyfyrwyr gradd meistr sy'n byw yng Nghymru, ac o dan 60 oed pan fydd y cwrs yn dechrau.
Noder y bydd y benthyciad yn cael ei dalu i chi mewn rhandaliadau wedi i chi ddechrau astudio. Felly, bydd angen i chi dalu eich ffioedd cwrs yn gyntaf er mwyn cofrestru ar gyfer eich cymhwyster. Darllenwch fwy am gyllido ôl-raddedig yng Nghymru.
Os ydych chi’n ystyried astudio gradd israddedig gyda ni, mae cymorth ariannol ar gael i chi hefyd. Dysgwch fwy am gymorth ariannol israddedig yng Nghymru.