Adeiladwch ar eich astudiaethau coleg gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru

A ydych chi wedi cwblhau eich astudiaethau coleg yng Nghymru1 ac yn ystyried eich cam nesaf? Gallech droi eich gradd sylfaen, HNC neu HND yn radd israddedig ag anrhydedd gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru. 

Rydym yn cynnig cyrsiau o safon i unrhyw un sydd â'r awydd a'r cymhelliant i lunio eu dyfodol, waeth beth fo'u hoedran, cefndir neu incwm. Astudiwch gwrs rhan amser gyda'r arbenigwyr mewn dysgu o bell.

 

Gofynnwch am brosbectws

Beth yw'r Brifysgol Agored?

Cawsom ein sefydlu i sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb. Rydym yn creu cyrsiau dysgu o bell â chymorth sy'n gweithio i chi. Nid oes angen i chi symud i ffwrdd na theithio i gampws, mae ein cyrsiau ar-lein yn golygu eich bod chi'n cael dewis ble a phryd i astudio. Dyma rai o'r rhesymau i astudio gyda ni:

  • Ni yw'r darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf yng Nghymru.
  • Mae dros 14,500 o fyfyrwyr, o bron bob cymuned yng Nghymru, yn astudio gyda ni ar hyn o bryd, ac mae dros ddau draean ohonynt mewn swyddi llawn amser yn ystod eu hastudiaethau.
  • Rydym yn arweinydd byd-eang o ran cynnig cyfleoedd dysgu o bell arloesol a hyblyg ar lefel addysg uwch.
  • Mae mwy o Brif Swyddogion Gweithredol a Rheolwyr Gyfarwyddwyr cwmnïau yn y DU wedi astudio gyda ni nag unrhyw brifysgol arall yn y DU2.
Lawrlwythwch ein Llyfryn Cymorth i Fyfyrwyr a darganfod mwy am symud ymlaen o astudio coleg i’r Brifysgol Agored.
 

Trowch eich gradd sylfaen, HND neu HNC yn radd lawn

Efallai y gallwch drosglwyddo eich credydau AU o’r coleg tuag at gymhwyster gyda’r Brifysgol Agored. Gallai hyn olygu mai dim ond 120 credyd arall sydd eu hangen arnoch i ennill gradd anrhydedd, felly rydych eisoes ar eich ffordd.

Bydd gennych hefyd yr hyblygrwydd i ddewis dwyster eich astudiaeth. Bydd ein Tîm Cymorth i Fyfyrwyr arbenigol yn cynnig help a chyngor er mwyn sicrhau eich bod yn llwyddo i gydbwyso eich astudiaethau, gwaith ac ymrwymiadau bywyd eraill.

Dysgwch fwy am drosglwyddo credyd

Pam mai’r Brifysgol Agored yw’r dewis cywir i chi

Fel rhan o’r brifysgol fwyaf yn y DU, rydym yn cynnig addysg o’r radd flaenaf, yn eich helpu i gyflawni eich nodau proffesiynol a phersonol. Gyda dros 50 mlynedd o brofiad yn y byd dysgu o bell, byddwn yn sicrhau nad ydych yn teimlo'r pellter. Byddwch yn cael cymorth rheolaidd gan eich tiwtor, myfyrwyr eraill a’ch Tîm Cymorth i Fyfyrwyr.

Mae ein cyrsiau rhan amser yn rhoi cyfle ichi ennill cymhwyster heb orfod aberthu beth sy’n bwysig i chi. P’un a yw hynny’n gofalu am eich teulu, gweld eich ffrindiau neu weithio, mae ein cyrsiau’n ffitio o amgylch eich bywyd chi. Yn wir, mae dros 70% o’n myfyrwyr mewn swydd llawn amser neu ran amser.

Dysgwch fwy am ddysgu o bell yn rhan amser gyda'r Brifysgol Agored  

Cefnogaeth i fyfyrwyr anabl

Daw ein myfyrwyr o bob rhan o Gymru ac maent yn byw bywydau prysur, gan gydbwyso eu hastudiaethau â’u hamgylchiadau a’u cyfrifoldebau bob dydd.

Mae astudio'r Brifysgol Agored yn hyblyg, yn ffitio o amgylch eich bywyd, gyda chefnogaeth ar bob cam o'r ffordd. Dyna pam mae mwy o fyfyrwyr anabl yn dewis astudio gyda'r Brifysgol Agored nag unrhyw brifysgol arall yn y DU. Y llynedd yn unig, cefnogodd y Brifysgol Agored dros 28,000 o fyfyrwyr ag anableddau ac anghenion ychwanegol.

Dysgwch fwy am sut y byddwn yn eich cefnogi wrth i chi astudio gyda ni. 

Mae astudio gyda'r Brifysgol Agored yn fwy fforddiadwy na’r disgwyl

Mae ystod o gymorth ar gael gyda ffioedd a chyllid, gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu rhan amser ac opsiynau talu hyblyg.

Gallech hefyd dderbyn hyd at £4,500 y flwyddyn nad oes angen ichi ei ad-dalu, wedi’i dalu’n uniongyrchol i chi er mwyn helpu â chostau byw os ydych yn astudio’n rhan amser.

Dysgwch fwy am sut allwn ni eich cefnogi chi a helpu i wneud astudio’n fwy fforddiadwy
 

Eisiau dechrau arni? Ewch amdani!

Dysgwch fwy am y Brifysgol Agored, ein cyrsiau a sut allwn ni eich helpu i gychwyn adeiladu eich dyfodol.

Trafodwch eich opsiynau gydag un o’n hymgynghorwyr, ffoniwch

029 2002 0354

Dysgwch fwy amdanom ni â'n cyrsiau

Gofynnwch am brosbectws
1Os ydych chi wedi astudio gradd Sylfaen/HNC/HND yn rhywle arall yn y DU, cysylltwch â’n Tîm Trosglwyddo Credydau a all eich cynghori ynghylch eich amgylchiadau unigol.

2Yn ôl dadansoddiad o dros 260,000 o broffiliau LinkedIn gan recriwtwyr proffesiynol FowardRole (Which universities produce the most CEOs?)